Statws gwarchodedig ar gyfer dau fusnes bwyd a diod o Sir Benfro
Mae'r Pembrokeshire Beach Food Company a Velfrey Vineyard yn dathlu ar ôl ymuno â rhestr o gynhyrchwyr o Gymru i weld eu cynnyrch yn cael statws gwarchodedig. Mae Velfrey Vineyard wedi derbyn Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) am ei gwinoedd Velfrey NV Traditional Method Sparkling Brut a 'Rhosyn' 2021 Traditional Method Vintage Sparkling Brut Rosé. Wedi'i leoli yn The Old Point House ym Mae East Angle, mae'r Pembrokeshire Beach Food Company wedi derbyn statws Dynodiad Tarddiad...