CYNHYRCHWYR MÊL O GYMRU YN CYMRYD Y GENHEDLAETH NESAF O FFERMWYR GWENYN O DAN EU HADENYDD
Wrth i Ddiwrnod Gwenyn y Byd agosáu (20 Mai) mae’r genhedlaeth nesaf o dalent wenynyddol yn cael ei meithrin gan ffermwyr gwenyn yng Nghymru drwy gynnig prentisiaethau. Wedi'i ddynodi gan y Cenhedloedd Unedig, mae Diwrnod Gwenyn y Byd yn cydnabod rôl gwenyn a pheillwyr eraill mewn datblygiad cynaliadwy, diogelwch bwyd a bioamrywiaeth. Dewiswyd y dyddiad i gyd-fynd â phen-blwydd Anton Janša, gwenynwr o Slofenia o'r 18fed ganrif sy'n cael ei gydnabod fel arloeswr cadw gwenyn...