Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau ddydd Mercher 1 Mai. Mae'r cynllun grantiau bach yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru gan wella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a'u hymwybyddiaeth ohonynt. Bydd y gronfa yn helpu i fynd i'r afael â chamau gweithredu allweddol 'Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod' Llywodraeth Cymru. Mae hefyd...
Cynhyrchwyr o Gymru i arddangos eu cynhyrchion ym mhrif sioe fwyd a diod y DU
Mae’r grŵp yn cynnwys 44 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru a fydd yn mynychu’r Farm Shop & Deli Show 2024 a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham rhwng 29 Ebrill a 1 Mai. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i gwmnïau sefydledig a sêr newydd o Gymru arddangos eu cynhyrchion i gynulleidfa genedlaethol. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd 13 o gwmnïau bwyd a diod adnabyddus Cymru yn arddangos ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn...
Busnesau bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad gweithwyr
Mae arolwg diweddar wedi datgelu bod busnesau Cymreig yn y sector bwyd a diod yn perfformio’n well na’r cyfartaleddau cenedlaethol a byd-eang o ran boddhad gweithwyr. Comisiynodd a chynhaliodd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, arolwg a oedd yn ymchwilio i wahanol feysydd yn y gweithle gan gynnwys boddhad swydd, llesiant, diwylliant sefydliadol, adborth rheolwyr, cyfleusterau, hyfforddiant ac ymgysylltu â gweithwyr. Roedd canfyddiadau’r arolwg yn hynod...
Stad y Rhug yn cynnal dathliadau yn y siop ar gyfer mis B Corp gyda chwmnïau bwyd a diod o Gymru
Mae stad fferm organig flaenllaw ger Corwen, gogledd Cymru wedi ymuno â Chlwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru i ddathlu Mis B Corp yn ystod mis Mawrth. Fel rhan o’r dathliad, mae Stad y Rhug yn cynnal digwyddiad hyrwyddo yn eu siop fferm, sy’n cynnwys detholiad o gwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig. Mae’r digwyddiad hyrwyddo yn y siop sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd tan ddiwedd y mis, yn amlygu ymrwymiad cwmnïau Cymreig...
Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn creu cysylltiadau newydd yn Asia
Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru wedi dychwelyd o Japan yn ddiweddar, lle maent wedi bod yn hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn arddangosfa bwyd a diod fwyaf Asia. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mynychodd saith cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru Foodex Japan, o dan faner Cymru/Wales, gyda llawer yn dychwelyd wedi gwneud cysylltiadau newydd pwysig, a fydd, gobeithio, yn arwain at archebion proffidiol. Ymhlith yr arddangoswyr...
CYNHYRCHWYR CYMRU YN TYRRU I FANCEINION AR GYFER ‘NORTHERN RESTAURANT & BAR 2024’
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn paratoi ar gyfer un o ddigwyddiadau masnach pwysicaf y DU, Northern Restaurant & Bar 2024 ( Mawrth 12 a 13). Northern Restaurant & Bar 2024 (NRB24) yw prif ddigwyddiad masnach lletygarwch Gogledd Lloegr, ac mae'r llu Cymreig yn cynnwys cynhyrchion mor amrywiol â diodydd kombucha a chnoadau cŵn o ansawdd uchel — i gyd yn gobeithio dal llygad cynulleidfa'r diwydiant lletygarwch. Wedi'i gynnal yng Nghyfadeilad Confensiynau Manchester...
Blasau o Gymru yn serennu mewn Marchnad Gŵyl Ddewi yn Llundain
Wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosáu, bydd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru yn glanio yn Stryd Lamb, Marchnad Spitalfields, Llundain, penwythnos yma (2-3 Mawrth 2024) ar gyfer dathliad o fwyd a diod o Gymru. Bydd gwledd go iawn yn disgwyl ymwelwyr a phobl sy’n mynd heibio a byddant yn cael y cyfle i flasu amrywiaeth eang o fwyd arbenigol Cymreig, o’r pice ar y maen traddodiadol i charcuterie sydd wedi ennill gwobrau...
Disgyblion yn cael blas ar yrfaoedd yn y sector bwyd a diod ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru
Dysgodd ddisgyblion o dair ysgol yn Ne Cymru am gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar 23-24 Ionawr 2024, fel rhan o Daith Ysgolion a drefnwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales i ddod a disgyblion i Bencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd (ICC Wales). Mynychodd cyfanswm o 95 disgybl o Ysgol Uwchradd Casnewydd, Ysgol Gymraeg Plasmawr, Caerdydd ac Ysgol Uwchradd...
Bwyd a diod o Gymru i chwifio'r faner mewn digwyddiad mawr yn Dubai
Mae Cymru ar fin creu argraff flasus yn Gulfood 2024, un o arddangosfeydd bwyd a diod mwyaf y byd, a gynhelir yn Dubai fis nesaf, gyda dirprwyaeth o gwmnïau’n paratoi i arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel ar y llwyfan byd-eang. Mae Gulfood 2024 yn ddigwyddiad pum diwrnod a gynhelir rhwng 19 a 23 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai. Disgwylir iddo groesawu 5500+ o arddangoswyr o dros 127 o wledydd, gan ddatgelu...
Gwobr newydd i ddathlu busnesau bwyd a diod sydd yn uwchsgilio eu gweithluoedd
Bydd categori newydd yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yn dathlu busnesau bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i uwchsgilio eu gweithluoedd. Mae’r categori Busnes Uwchsgilio Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn wedi ei noddi gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales, rhaglen newydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio efo’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus ac abl i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd...