Mae planhigyn a symbol cenedlaethol Cymru, y Genhinen Gymreig, bellach wedi'i gwarchod yn swyddogol wrth iddo ennill statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU. Hwn yw'r trydydd cynnyrch Cymreig newydd i gael statws GI y DU, gan ddilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chig Oen Mynyddoedd Cambria. Mae Cennin Cymreig hefyd yn dod yn 19eg aelod o deulu cynnyrch GI Cymru, gan ymuno â chynnyrch mawr eraill fel Halen Môr Môn, Cig Oen Cymreig...
CWMNÏAU BWYD A DIOD O GYMRU YN HYRWYDDO 'YSBRYD TÎM' AR GYFER CWPAN Y BYD
Gyda diwrnodau i fynd nes y bydd tîm Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd FIFA ers dros 60 o flynyddoedd, mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn dathlu rhagoriaeth yn y byd chwaraeon ac yn codi ymwybyddiaeth o gynnyrch o'r radd uchaf. Mae dros 150 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru o bob maint yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yr hydref. Maent yn defnyddio 'Tîm Cymru' i...
Gwobrau blynyddol yn dathlu gwinoedd Gorau Cymru
Mae gwinoedd o winllannau ledled Cymru wedi cael eu cydnabod gan Gymdeithas Gwinllannau Cymru yn seremoni wobrwyo 2022. Daeth chwe gwin o bedair gwinllan yng Nghymru i’r brig yng Ngwobrau Gwin Cymru, digwyddiad a gafodd ei chynnal yng ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg. Roedd 12 gwinllan yn cymryd rhan yn y gwobrau eleni, gan gynrychioli cyfran o’r diwydiant gwin yng Nghymru, diwydiant sy’n prysur dyfu - mae oddeutu 30 o winllannau yn gweithredu ledled y...
Lansio Cynllun Sbarduno Busnes Bwyd 17 Tachwedd 2022
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘ Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 | Business Wales - Food and drink (gov.wales) Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd. Cenhadaeth y Weledigaeth yw: Cynyddu gwerth, cynhyrchiant a maint...
Derbyniad bwyd a diod Qatar yn dechrau’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd
Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cynnal derbyniad Qatari gyda chynhyrchwyr blaenllaw, wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer Cymru yn cymryd y rhan yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 ymhen pedair wythnos. Fe’i cynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha a’i gyflwyno gan Lysgennad EF i Qatar, Jon Wilks CMG, roedd y cinio a’r arddangosfa o fwyd a diod o Gymru yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel wrth i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ymddangosiad...
Diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i ffynnu
Dyma gynnydd o 2.9% o'r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020. Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn i £5.4bn. Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd yn gynharach eleni bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i helpu...
Cwmnïau o Gymru yn chwilio am gyfleoedd allforio newydd yn arddangosfa bwyd a diod Paris
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd i un o arddangosfeydd arloesi bwyd mwyaf y byd ym Mharis fis nesaf (15-19 Hydref 2022). Ffair a gynhelir bob dwy flynedd sydd wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad mwyaf blaenllaw’r diwydiant bwyd yw Salon International de I’Alimentation (SIAL) – y lle gorau i ddarganfod y tueddiadau a’r arloesiadau diweddaraf. Mae'r sioe fasnach yn arddangos bwyd-amaeth, manwerthu bwyd, ac arlwyo sefydliadol a masnachol. Gyda...
BWYD A DIOD CYMRU YN SERENNU YNG NGHYNHADLEDD GYFLENWYR GYNTAF ERIOED ASDA
Cynhaliodd y manwerthwr archfarchnad, Asda, ei gynhadledd gyntaf yn canolbwyntio ar fwyd a diod o Gymru a gwerth cynnyrch Cymreig. Wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Asda a Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru, roedd y gynhadledd cyflenwyr yn cynnwys dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru – yn cynnwys cyflenwyr presennol Asda yn ogystal â darpar gyflenwyr. Cafodd brandiau a chynhyrchwyr Cymreig enwog o bob maint eu harddangos ac fel rhan o'r digwyddiad...
Hwb yn nifer y busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n datblygu arferion cynaliadwy
Mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir o ei 100 o gynhyrchwyr. Mae'r busnesau hyn yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd niche i eitemau cyfaint uchel ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu mawr. Fel rhan o weledigaeth strategol gyffredinol Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd ym mis Ionawr 2020 i gefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy, wrth dyfu’r...
Cefnogi diwydiant bwyd a diod cynaliadwy yng Nghymru
Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y Byd.