Mae cwmni coffi o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2022. O’r saith cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2022, dyfarnwyd Golden Fork Cymru i Bay Coffee Roasters am eu coffi Indonesian Sumatran Masnach Deg Organig. Mae coffi Bay Coffee Roasters yn cael ei rostio yn eu safle rhostio yn Nhanygroes, yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae...
CYNHYRCHWYR BWYD A DIOD O GYMRU AM GAEL BLASU LUNCH! 2022
Mae grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar eu ffordd i Lundain i fwynhau lunch! – y digwyddiad hanfodol i’r sector bwyd i fynd (Medi 14 a 15). Cynhelir y digwyddiad hwn yn ExCel Llundain a chynhelir ei chwaer-sioeau Commercial Kitchen a Casual Dining yn yr un lle. Mae lunch! sy’n cynnig toreth o fwydydd a diodydd blasus, rhwydweithio, seminarau, a’r dechnoleg ac arloesi diweddaraf yn siop un alwad i fusnesau bwyd i...
Lansiad y Pasbort Gyrfaoedd newydd yn Nhŷ’r Cyffredin
Wedi’i lansio gan y National Skills Academy for Food and Drink (NSAFD) a’r Food and Drink Federation (FDF), bydd y Pasbort Gyrfaoedd yn cyflymu’r broses o’ch rhoi ar restrau byr am gyfweliadau a chynefino mewn swyddi newydd, gan arbed amser ac arian i wneuthurwyr, a rhoi talent newydd awyddus ac ymroddedig ar y trywydd cyflym i mewn i’r sector Ymgynullodd cynulleidfa o Aelodau Seneddol, Gweision Sifil a phobl ddylanwadol o’r byd gweithgynhyrchu Bwyd a Diod...
Sêr bwyd a diod Cymreig Great Taste yn disgleirio
Mae Great Taste, sef gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi ei sêr o 2022, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru cael sêl bendith aur. Mae 182 o gynhyrchion Cymreig rhyfeddol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobrau 2022, gyda 129 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 46 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y...
Mwy na 100 o bobl yn cael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru
Cafodd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni i annog pobl i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y mae’r diwydiant yn eu cynnig. Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobl i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hestyn tan ddiwedd mis Tachwedd. Gan gydweithio’n glos â busnesau, targedwyd amrywiaeth o dalentau, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael...
Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio sicrhau cytundebau yn Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol, Sioe Frenhinol Cymru, ddychwelyd yr wythnos nesaf (18-21 Gorffennaf), bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnal Lolfa Masnach Busnes yn y Neuadd Fwyd, gan roi cyfle i gwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i gwrdd â phrynwyr o bob sector, gan gynnwys gwasanaethau bwyd, manwerthu, cyfanwerthu, caffael cyhoeddus a lletygarwch. Bydd y Lolfa Fusnes yn darparu arddangosfa o’r 60 o gynhyrchwyr sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd...
Lansio Clwstwr Perllannau Treftadaeth Cymru i hyrwyddo Ffrwythau Amrywiol Cymru.
Mae Garddwriaeth Cymru wedi helpu i ffurfio Cwmni Budd Cymunedol, nid er elw, Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf., er mwyn helpu i hyrwyddo ffrwythau amrywiaethau Treftadaeth Gymreig. Nod Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. yw bod o fudd i berchnogion Perllannau Treftadaeth ledled Cymru, gan amddiffyn amrywiaethau Cymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yn rhoi llais i berchnogion a chynhyrchwyr Perllannau Treftadaeth Cymru ac yn eu galluogi i sefydlu Brand Cymreig a fydd yn helpu i hyrwyddo diogelwch...
Cyhoeddi mai Bwyd a Diod Cymru yw noddwr y National Geographic Traveller Food Festival
Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi’i ddatgelu fel noddwr y National Geographic Traveller Food Festival eleni, dathliad o fwyd a theithio a fydd yn dod â rhai o enwau mwyaf y byd coginio ynghyd ac yn arddangos blasau o bob cornel o’r byd. Cynhelir y National Geographic Traveller Food Festival dros ddau ddiwrnod o 16-17 Gorffennaf 2022 yn y Business Design Centre yn Llundain, ac mae'n ddigwyddiad llawn sêr a fydd yn cynnig...
Llyfr ryseitiau cymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru yn cael ei enwi fel y gorau yn y byd
Mae casgliad o ryseitiau sy’n dod â bwydlen o brydau o bob rhan o’r byd ynghyd i ddathlu amrywiaeth cymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru wedi ennill gwobr fyd-eang adnabyddus. Mae ‘The Melting Pot’ gan Maggie Ogunbanwo, wedi ennill gwobr Y Gorau yn y Byd yn y Gwobrau Gourmand World Cookbook yn y categori mudwyr. Gwobrau Gourmand World Cookbook yw'r cystadlaethau rhyngwladol mwyaf yn y sector bwyd, gyda 227 o wledydd a rhanbarthau...
Allforion bwyd a diod o Gymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021 gan gyrraedd £641m. Cymru hefyd oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 gan godi £89 miliwn, twf o 16.1%. Y categori allforio gwerth uchaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru yn 2021 oedd Cig a Chynhyrchion Cig ar...