Chris & Glyn Davies 

Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir Drefaldwyn

 

Treial: Meillion coch - yr allwedd wrth symud tuag at hunangynhaliaeth o ran protein ac enillion amgylcheddol?

 

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf mae Chris a Glyn wedi bod yn gwneud newidiadau ar y fferm, gydag effeithlonrwydd yn brif nod.

Gan fod costau mewnbynnau’n cyrraedd lefelau anghynaladwy, bydd Awel y Grug yn treialu meillion coch, a rhygwellt Eidalaidd parhaol a meillion gwyn mewn cymhariaeth â phorfa barhaol i leihau mewnbynnau trwy gynyddu eu hunangynhaliaeth mewn protein gan leihau’r dyddiau hyd ladd a’u dibyniaeth ar wrtaith Nitrogen.

Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • cynnal a gwella’r ecosystem yn Awel y Grug
  • cyfrannu at iechyd a lles da i’r ddiadell. 

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cornwal Uchaf
Dylan, Gwenda and Gwion Roberts Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy {
Ffrem Cilywinllan
Eifion Pughe Ffrem Cilywinllan, North Montgomeryshire Gyda hafau
Carregcynffyrdd
Carys Jones Carregcynffyrdd, North Carmarthenshire Mae