Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cyswllt Ffermio

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth sydd ar wefan Cyswllt Ffermio ac adrannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig y wefan. Mae Cyswllt Ffermio yn wasanaeth arbenigol o wefan Busnes Cymru. 

Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae'n amlinellu pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau, a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch gyrchu'r tudalennau hyn o'r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe'r gwasanaeth unigol. 

 

Defnyddio’r wefan hon 

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Cyswllt Ffermio. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau 

  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 

  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver) 

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall. 

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. 

 

Hygyrchedd y wefan hon 

Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch: 

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir 

  • ni fydd hyperddolenni’n ail-lifo’n uwch na 300% 

  • nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau 

  • nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson 

  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw 

  • nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw  

  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau 

  • nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen 

  • mae llawer o ddogfennau mwn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch 

Busnes Cymru 

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol 

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain: 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain 

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen. 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd 

  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol 

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Cyswllt Ffermio. 

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • pwy ydych chi 

  • sut gallwn eich helpu 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon 

Mae Cyswllt Ffermio wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

 

Statws cydymffurfedd 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod. 

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch 

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd 

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 AA 2.4.6 

  • Mater: Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau gwag. Ni ddylai penawdau fod yn wag.

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 1.1.1 a WCAG 2.1 A 1.2.1 

  • Mater: Mae rhai tudalennau yn cynnwys delweddau gyda thestun Alt fel enw'r ffeil. Ni ddylai testun alt fod yn enw ffeil delwedd.  

  • Mater: Ni ddylai testun alt gynnwys dalfannau fel 'llun' neu 'wahanydd'.  

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 1.1.1 

  • Mater: Mae gan rai tudalennau elfennau delwedd anhygyrch. Rhaid i elfennau delwedd gael enw hygyrch.  

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 2.4.4 

  • Mater: Mae dolen yn defnyddio testun cyffredinol fel 'Cliciwch Yma' heb unrhyw destun amgylchynol sy'n esbonio pwrpas y ddolen.  

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 2.4.4, WCAG 2.1 A 4.2.9 a WCAG 2.1 A 4.1.2 

  • Rhaid i bob elfen “a” gynnwys testun neu ddelwedd gyda phriodoledd Alt.  

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 1.3.1 

  • Mater: Mae sawl dolen ar dudalen yn rhannu'r un testun cyswllt ac mae cyd-destun cyfagos, fodd bynnag, yn arwain i wahanol gyrchfannau. 

  • Mater: Adnabod penawdau rhesi a cholofnau mewn tablau data gan ddefnyddio elfennau penawdau tabl a marcio tablau gosodiad gyda rôl = cyflwyniad 

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 2.1.1 

  • Mater: Dylai pob triniwr ‘onmouseout’ gael triniwr ‘onblur’ cyfatebol. 

  • Mater: Dylai fod gan bob triniwr ‘onmouseout’ yr un triniwr â ffocws.  

Meini Prawf Llwyddiant a fethwyd: WCAG 2.1 A 4.1.1  

  • Mater: ID dyblyg – Defnyddir yr un ID ar fwy nag un elfen.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Meini prawf llwyddiant a fethwyd: WCAG 1.4.12 (Bylchiad Testun) 

  • Problem: Nid yw defnyddwyr yn gallu newid bylchiad testun nac uchder llinellau, sy’n hanfodol i’r rhai hynny ag amhariad ar y golwg y mae angen iddynt fformatio’r testun i’w gofynion eu hunain er mwyn iddo fod yn ddarllenadwy. 

Baich anghymesur 

Mae gwefan Cyswllt Ffermio wrthi ar hyn o bryd yn newid i brofiad GEL newydd LLYW.CYMRU. Bydd y problemau uchod yn ymwneud â chynnwys a’r wefan yn derbyn sylw yn rhan o’r ymarfer hwn ac yn cael eu hailbrofi ar ôl iddo gael ei gwblhau. Dylai’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod chwarter cyntaf 2024. 

Credwn y byddai gwneud hynny’n gynt yn achosi baich anghymesur.  

Offer rhyngweithiol a thrafodion 

Nid oes unrhyw offer a thrafodion Rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Cyswllt Ffermio. Os ydych chi'n credu bod rhai o'n hoffer a thrafodion Rhyngweithiol yn anhygyrch, cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod:  

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • pwy ydych chi 

  • sut gallwn eich helpu 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd 

Yn dilyn yr archwiliad a gynhaliwyd gan S8080 ym mis Ionawr 2022, mae Cyswllt Ffermio wrthi’n trwsio cynnwys sy’n methu â chyrraedd safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe ar fyrder. 

 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill 

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch. 

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt: 

  • heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall 

  • heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol 

  • heb eu hysgrifennu mewn iaith glir 

Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd. 

Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol. 

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen 

  • y fformat yr hoffech ei dderbyn  

  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio 

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith. 

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Ionawr 2024 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 4 Ionawr 2024. 

Sut aethom ati i brofi’r wefan 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Ionawr 2022. Cynhaliwyd y prawf gan S8080. 

Ar 15 Ionawr 2022, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8775 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth. 

Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn  

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy