Cyllid arbrofi - gwireddu eich syniad

Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth ehangach Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy?   

Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth ehangach Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy? 

Mae ceisiadau nawr wedi cau am gyllid o hyd at £5,000 i ffermwyr a thyfwyr ddefnyddio tuag at dreial ar y fferm i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.

Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.  
 

Prosiectau Cyllid Arbrofi (TOF) Cyswllt Ffermio – gwireddu eich syniad

Mae deunaw o brosiectau Cyllid Arbrofi wedi’u dyfarnu i ffermwyr a thyfwyr ledled Cymru i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb o fewn busnesau amaethyddol tra’n diogelu’r amgylchedd yn unol â’r Canlyniadau Rheoli Tir Addas. Amlygir y rhaniad rhwng y sectorau isod: 

 

Isod mae crynodeb o'r deunaw prosiect TOF sydd wedi'u dyfarnu trwy ddwy ffenestr ymgeisio yn 2023.

Sector Llaeth

1.Strategaethau i gynyddu bioleg y pridd

Bydd echdyniad compost sy'n cynnwys cannoedd o rywogaethau o facteria, ffyngau, protosoa a nematodau buddiol yn cael ei roi ar 6 llain. Cesglir data ar gyfradd twf glaswellt, dadansoddiad mwynau glaswellt, prawf sudd a brix, prawf Haney ar gyfer iechyd y pridd, a chyfraddau ymdreiddiad. 
Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 
     

2.Bwydo llaeth pontio wedi'i basteureiddio a'i gyfoethogi i loi

Mesur potensial bwydo llaeth pontio wedi’i basteureiddio a’i gyfoethogi am 10 diwrnod mewn system lloia bloc, yn hytrach na throsglwyddiad sydyn i laeth/powdr cyflawn fel sy’n arferol yn y diwydiant llaeth. Cesglir data ar glefydau lloi newydd-anedig, Cynnydd Pwysau Byw Dyddiol, defnydd o wrthfiotigau (mg/PCE) a defnyddiau HP-CIA, ynghyd â lles anifeiliaid. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle 

3.Tyfu blodau'r haul gydag india-corn fel cnwd cyfatebol

Ymchwilio i weld a all tyfu blodau’r haul fel cnwd cyfatebol i india-corn yn hinsawdd gorllewin Cymru ddarparu protein ychwanegol i gynnal deiet y buchod. Unwaith y bydd y cae wedi'i gynaeafu, bydd yn cael ei hau â rhygwellt a fydd yn cyfyngu ar y posibilrwydd o erydu pridd dros y gaeaf. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, iechyd cnydau, gwerthoedd startsh a phrotein, a gwerth economaidd canghennau llai o brotein o bosibl. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm

4.Drilio gwndwn llysieuol yn uniongyrchol ar gyfer buddion lluosog

Bydd y treial ar y fferm yn ymchwilio i effeithiolrwydd tri chymysgedd gwndwn llysieuol gwahanol ar: 
a) adfywio porfa rhygwellt parhaol a oedd yn ddibynnol ar wrtaith nitrogen yn flaenorol, a b) drilio uniongyrchol fel dull amharu cyn lleied â phosibl ar bridd o sefydlu gwndwn llysieuol.
Cesglir data ar gynnyrch, iechyd y pridd a dadansoddiad economaidd. Bydd gwndwn llysieuol hefyd yn darparu ffynonellau bwyd newydd i beillwyr. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm

5.Rheolaeth biocemegol o smotiau brown mewn ffa gwanwyn#

Bydd y prosiect yn gwerthuso dichonoldeb tyfu ffa gwanwyn fel cnwd protein ar gyfer buchod llaeth gyda'r nod o ddileu mewnforio soia. Mae smotiau brown (chocolate spot) yn glefyd ffwngaidd cyffredin a bydd y prosiect yn ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio rheolaeth fiocemegol i liniaru prynu chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, ac i gynnal bioamrywiaeth caeau. Bydd y prosiect hefyd yn asesu a yw’r ffa gwanwyn sy’n blodeuo ym mis Mehefin yn ffynhonnell fwyd ychwanegol i beillwyr. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, lefel y clefyd, dadansoddi protein, ac archwiliad bioamrywiaeth. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle

Cig Coch

1.Cynyddu Gwytnwch i sychder yr haf - treialu Maglys

Bydd y prosiect yn anelu at fonitro sefydlu a rheoli cnwd maglys sy'n gallu gwrthsefyll sychder, a allai wneud ffermydd Cymru'n wydn i hafau sychach mynych.  Bydd ŵyn yn pori’r cnwd a bydd eu perfformiad yn cael ei gymharu â gwndwn rhygwellt a meillion traddodiadol. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, perfformiad ac iechyd ŵyn, a dadansoddiad economaidd o’r ddau gnwd. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm

​​​​​​2. Sefydlu cnydau effeithiol dan Gnydau Bresych

Mae gaeafu defaid a gwartheg ar gnydau bresych yn cynnig cyfle i leihau costau gaeafu ar ffermydd. Fodd bynnag, mae risg bosibl o erydiad pridd a cholli maetholion trwy ddŵr ffo. Bydd y prosiect yn gwerthuso sefydlu cnwd gorchudd tir effeithiol o dan y cnydau bresych er mwyn lleihau'r perygl hwn o erydiad pridd a darparu porthiant ychwanegol yn y gwanwyn. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, erydiad pridd, perfformiad ŵyn, a dadansoddiad economaidd. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 

3.Llwch craig basalt - effeithiau ar dyfiant glaswellt. 

Mae ymchwil wedi dangos y gall llwch craig basalt helpu pridd i storio pedair gwaith yn fwy o garbon a chynyddu cynnyrch cnydau gyda 20%. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio llwch craig basalt o chwarel yn Llanfair-ym-Muallt i asesu a yw cnwd glaswellt yn gwella ar ôl gwasgaru llwch craig. Cesglir data ar gynnyrch glaswelltir, iechyd pridd a dal a storio carbon. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 

4.Defnyddio gypswm i wella strwythur y pridd

Dywedwyd bod gypswm yn gwella strwythur y pridd, yn lleihau’r maetholion sy’n llifo oddi ar gaeau ac yn darparu ffynhonnell o galsiwm a sylffwr ar gyfer maeth planhigion. Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r honiadau hyn drwy osod gypswm ar dir amaethyddol a monitro'r effeithiau. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 

5.Cymharu perfformiad ŵyn ar wahanol wndwn

Bydd y prosiect yn cymharu perfformiad ac iechyd ŵyn ar draws tri gwndwn gwahanol, sef gwndwn amlrywogaeth, gwndwn siwgr uchel a gwndwn lluosflwydd. Yn ogystal â pherfformiad yr ŵyn, bydd cyfrif wyau ysgarthol a dadansoddiadau mwynau gwaed yn cael eu monitro’n rheolaidd er mwyn nodi gwahaniaethau ychwanegol rhwng y gwndwn. Bydd y prosiect hefyd yn defnyddio offer EID sy'n ychwanegiad newydd i'r fferm. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm

6.Defnyddio ychwanegyn bacteriol a ffwngaidd ar slyri a bokashi ar dail buarth

Bydd y prosiect yn ymchwilio i sut i wneud y gorau o faetholion ar y fferm. Bydd ychwanegion yn cael eu hychwanegu at y slyri gwartheg a'u monitro am wahaniaethau yng nghyfanswm y nitrogen, nitrogen amoniwm, a deunydd sych slyri. Bydd gennym ddwy domen o dail buarth, un wedi'i drin â bokashi a'r llall ddim, mae defnyddio bokashi yn lleihau colledion carbon a deunydd organig, gan arwain at ragor o faetholion sydd ar gael i'r cnwd ar ôl ei wasgaru ar y ddaear. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon

7.Effaith Flexidine ar ŵyn sy'n ddiffygiol mewn ïodin

Mae’r prosiect yn asesu i ba raddau y mae defnydd Flexidine yn effeithio ar berfformiad ŵyn. Bydd ŵyn sydd wedi’u trin a heb eu trin yn cael eu monitro i weld a ydynt yn magu pwysau byw dyddiol. Bydd ŵyn hefyd yn cael eu monitro am ffactorau eraill megis baich llyngyr a allai effeithio ar fagu pwysau. Bydd y prosiect yn asesu ôl troed carbon pob grŵp yn ogystal â maint yr elw. Bydd y prosiect yn defnyddio technoleg EID ar gyfer casglu a chofnodi data. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle

Ffermydd Cymysg

1.Bio-olosg sy'n deillio o sarn dofednod ar gynhyrchiant glaswellt yr ucheldir

Prif amcan y prosiect yw sefydlu cynnig gwerth ar gyfer defnydd masnachol bio-olosg sy'n deillio o sarn dofednod. Mae'r bio-olosg a wneir o sarn dofednod yn cadw'r ffosfforws a'r nitrogen ac o'i roi ar y tir mae'n rhyddhau'r maetholion yn fwy araf o'i gymharu â sarn dofednod. Bydd y prosiect yn asesu buddion economi gylchol bio-olosg sy'n deillio o ddofednod, buddion amgylcheddol, cnwd glaswellt ar ôl defnyddio bio-olosg a'r effaith economaidd. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon

Coetir

1. Amaethgoedwigaeth coed-tir âr

Bydd y prosiect yn asesu ymarferoldeb integreiddio cnydio ale o goed mewn cnwd ffa gwanwyn. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddyluniad y system coed-tir âr er mwyn sicrhau manteision megis gostyngiad mewn cyflymder gwynt, erydiad pridd ac anweddiad o gnydau. Gall cynnwys coed fod o fudd i bla ac afiechyd y cnwd tra'n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chynefinoedd. Cesglir data i roi cipolwg ar fanteision cnydio ale. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm

2.Hyfywedd tyfu coed cnau Ffrengig a chastanwydd pêr yng ngorllewin Cymru

Ymchwilio i hyfywedd tyfu 8 math gwahanol o goed cnau Ffrengig a chastanwydd pêr gyda chasglu data ar gyfradd marwolaethau, pa mor agored ydynt i glefydau a chynnyrch ffrwythau. Bydd y prosiect yn darparu data y mae mawr ei angen am dyfu coed cnau yng Nghymru. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:   

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle

Garddwriaeth

1.Profi strategaeth IPM trapio a lladd Alyssum-Orius ar gyfer rheoli thripsod mewn cnydau mefus 60 diwrnod Cymreig

Ar hyn o bryd, mae rheoli thripsod mewn cnydau mefus 60 diwrnod Cymreig yn dibynnu'n bennaf ar chwistrellau wedi'u targedu o'r pryfladdwr spinosad. O fewn yr astudiaeth hon, rydym yn bwriadu profi'r defnydd o Alyssum blodeuol fel cnwd trap ar gyfer thripsod ac fel planhigyn bancer i Orius mewn cnwd mefus awyr agored. Bydd data'n cael ei gasglu ar gyfrif thripsod, rhywogaethau thripsod, cyfrif Orius a difrod i blanhigion mefus. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle

2.Tyfu llwyni te yng Nghymru

Bydd y prosiect yn archwilio'r potensial i dyfu llwyni te ar fferm fynydd yng Nghymru. Defnyddir technoleg dadansoddi geo-ofodol tir i nodi'r ardaloedd lle mae'r cnwd yn fwyaf tebygol o ffynnu a chynhyrchu'r cnwd gorau posibl. Bydd y prosiect yn cofnodi nodweddion ffenotypig a dadansoddiad economaidd o dyfu te. Mae'r prosiect eisoes wedi denu llawer o ddiddordeb. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 
  • Lles pobl, anifeiliaid a lle

Tir Âr

1.Ymchwilio i'r defnydd o fio-brechlynnau ar gnydau âr
Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i weld a fyddai defnyddio bio-brechlynnau a bio-symbylyddion yn arwain at gynnydd yn y micro-organebau buddiol, a gobeithio yn arwain at well ffrwythlondeb pridd a gwell cynnyrch cnwd. Bydd cnwd yn cael ei gofnodi ar gyfer pob cae adeg cynhaeaf cyfunol y ceirch, gwenith a ffa, gan gymharu’r ardaloedd sydd wedi’u trin â’r ardaloedd rheolydd. Bydd y prosiect TOF hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol 
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff 
  • Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon 
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm 

Bydd canlyniadau a chanfyddiadau allweddol o'r prosiectau TOF uchod yn cael eu lledaenu trwy sianeli trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys y wefan, datganiadau i'r wasg, podlediadau, gweminarau, fideos a digwyddiadau ar y fferm.