Dylan, Gwenda and Gwion Roberts

Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy

Treial: Cnydau porthiant i besgi ŵyn

Gyda chostau cynhyrchu cynyddol, mae Cornwal Uchaf wedi bod yn edrych ar leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd wedi ei brynu i besgi 350 o ŵyn.

Bwriad y prosiect yw cymharu’r system besgi bresennol o roi’r ŵyn dan do o fis Hydref ymlaen ar wellt gyda gwair a dwysfwyd ad lib gyda chnwd porthiant fydd yn cynnwys cymysgedd o 71.5% rhygwellt Eidalaidd tetraploid, 7% maip sofl Vollenda, a 21.5% rêp hybrid Interval. Bydd y rhygwellt Eidalaidd yn gwella trwch y cnwd gan helpu i gadw’r anifeiliaid yn lân a bydd hefyd yn cynnig porfa hyd y gwanwyn canlynol. Trwy gynnwys Vollenda ac Interval bydd y gymysgedd yn fwy atyniadol i’w fwyta a bydd yn ychwanegu protein ac egni at y deiet.

Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y rhan hon o’r system, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys: 

●    lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
●    cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
●    lleihau llygredd gwasgaredig a chyfrannu at ddŵr glân
●    lleihau’r risg llifogydd a sychder
●    cyfrannu at iechyd a lles anifeiliaid da


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Ffermydd Glyn Arthur
Sarah Hammond and Robert Williams Ffermydd Glyn Arthur
Graianfryn
Gerallt Jones Graianfryn, Llanfachraeth, Ynys Môn {"preview
Hafod y Llyn Isaf
Teleri Fielden & Ned Feesey Hafod y Llyn Isaf, Llŷn & Snowdonia