Real SFX

 

Prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau bach a chanolig sydd wedi ennill gwobrau Emmy ffynnu ar dalent ffres

Mae cwmni effeithiau arbennig o Gaerdydd, Real SFX, wedi elwa o recriwtio prentisiaid i lenwi bylchau sgiliau yn y diwydiant creadigol ac mae bellach yn annog busnesau bach a chanolig eraill i ystyried prentisiaethau fel opsiwn recriwtio hyfyw.

Wrth i’r pandemig effeithio ar fusnesau, mae’r cwmni, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac Emmy ac y mae ei waith yn cynnwys Peaky Blinders, His Dark Materials a Doctor Who, yn cydnabod gwerth tîm cryf, cefnogol a’r angen i fuddsoddi yn nyfodol ei weithlu.

Meddai Carmela Carruba, cyfarwyddwr Real SFX: “Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae perchnogion ac arweinwyr busnesau yn gwneud penderfyniadau sy'n newid bywydau, gan recriwtio ac ail-werthuso eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae dod o hyd i'r bobl iawn ar y lefel iawn i gefnogi eich anghenion busnes yn hanfodol, ac mae'r Rhaglen Brentisiaethau yn hanfodol er mwyn i ni ffynnu ar dalent newydd ffres.

“Mae recriwtio prentisiaid wedi rhoi hwb mawr i ysbryd aelodau eraill o’r staff. Maent yn mwynhau ymgymryd â rôl mentor, trosglwyddo eu sgiliau ac mae’n eu cymell i weithio’n galetach. Yn ei dro, bydd yr arbenigedd gwerthfawr hwn yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol yn cael y profiad angenrheidiol i amddiffyn ein diwydiant yn y dyfodol.

“I ni, prentisiaethau yw’r dull recriwtio gorau, a byddwn yn parhau i recriwtio prentisiaid i gefnogi twf a chynaliadwyedd ein busnes.”

Recriwtiodd Real SFX ei brentis cyntaf yn 2012 ar ôl gweld bod prinder technegwyr medrus yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi symud i adeilad mwy, gan sefydlu adran colur a phrostheteg a fydd yn galluogi recriwtio mwy fyth o brentisiaid.

Meddai Carmela: “Pan wnaethom symud o Lundain gyntaf i ddechrau’r busnes yng Nghaerdydd, cawsom drafferth dod o hyd i griw effeithiau arbennig lleol. Roedd rhaid i ni edrych am bobl leol y gallem eu hyfforddi yn y sgiliau penodol yr oedd eu hangen arnom.

“Fe wnaethom ddechrau recriwtio prentisiaid wyth mlynedd yn ôl. Mae tua 95% o’n holl brentisiaid yn aros o fewn y busnes naill ai fel gweithwyr amser llawn neu weithwyr llawrydd. Rydym yn credu mewn cyfle cyfartal ac rydym yn recriwtio pobl o bob oed ac o ystod o gefndiroedd gwahanol.

“Mae’r diwydiant creadigol yn gystadleuol ac yn symud yn gyflym ac i ni, prentisiaethau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod gennym weithlu sydd wedi eu hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen arnom i fodloni anghenion y busnes. Mae prentisiaid yn dysgu sgiliau gwerthfawr yn y gweithdy ac ar set, gan ddysgu technegau na ellir eu dysgu mewn ystafell ddosbarth yn unig. Maent yn dod â thalent ffres i’r busnes yn ogystal â syniadau newydd a brwdfrydedd i’r tîm.”

“Dylai busnesau o bob maint ystyried recriwtio prentisiaid. Mae cymorth ac arweiniad cryf ar gael i fusnesau yng Nghymru sy’n ystyried y trywydd hwn – dw i ddim credu y bydden ni mor llwyddiannus ag yr ydym heddiw heb ein prentisiaid,” ychwanegodd Carmela.


Cronfeydd yr UE yng Nghymru

Mae'r Rhaglen Brentisiaethau ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru