Cyflogadwyedd Troseddwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi yng Nghymru i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel gyda ffocws ar gyflogadwyedd a chynyddu cyfleoedd i unigolyn ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl cael ei ryddhau.

Gall eich busnes elwa ar y sgiliau y mae'r unigolion hyn wedi'u meithrin yn y carchar ac yn ystod eu bywyd blaenorol.  Os oes gennych anghenion penodol o ran sgiliau, siaradwch â’ch Cynghorydd Busnes Cymru ynglŷn â’r potensial i ddatblygu’r sylfaen sgiliau o fewn poblogaeth y carchardai.

Ydych chi erioed wedi ystyried cyflogi cyn-droseddwr?

Dengys ystadegau presennol mai cyfran fechan o garcharorion sy’n cael gwaith o fewn blwyddyn i’w rhyddhau, er eu bod yn gymwys ac yn meddu’r sgiliau cywir i wneud llawer o’r swyddi sy’n wag ac y mae cyflogwyr yn cael trafferth i’w llenwi. Er hynny, mae llawer o gyflogwyr yn dechrau sylweddoli bod manteision o gyflogi cyn-droseddwr yn eu cwmni.

Drwy gyflogi cyn-droseddwr, efallai bod modd i chi leihau’ch costau recriwtio, cynyddu eich cyfradd cadw staff, lleihau absenoldebau staff, datrys prinder sgiliau ac, yn anad dim, mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth.

Drwy ymuno â chwmnïau a sefydliadau arloesol fel Timpsons a Halfords a chyflogi cyn-droseddwyr, byddwch chi a’ch busnes yn annog a chynorthwyo eraill i wneud yr un peth.

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder doreth o wybodaeth i fusnesau ynghylch y manteision o gyflogi cyn-droseddwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth a chymorth i gwmnïau sy’n ystyried cyflogi cyn-droseddwr drwy Busnes yn y Gymuned.

Os hoffech chi elwa ar y manteision sy’n dod yn sgil cyflogi cyn-droseddwr, cysylltwch â Rhwydwaith Dyfodol Newydd Cymru (Wales New Futures Network).

I gael gwybod mwy

Os hoffech wybod mwy am y ffordd y gallwn ni eich helpu i recriwtio ymgeiswyr gwych i ddatblygu eich busnes, cysylltwch â  New Futures Network neu e-bostiwch offenderlearningpolicy@llyw.cymru.