Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

Defnyddio'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCChC) i ddeall a chymharu eich cymwysterau

Gall y Fframwaith eich helpu i ddeall a chymharu'r cymwysterau a gafwyd a'r dysgu a wnaed yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop gyfan.


Beth yw'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau?

Fframwaith sy'n disgrifio'r system cymwysterau yng Nghymru yw'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau. Ei nod yw helpu dysgwyr ac eraill i wneud penderfyniadau doeth am eu cyrsiau dysgu a'u llwybrau cynnydd posibl o'r naill lefel i'r llall, ac i wahanol fathau o gyrsiau dysgu, e.e. dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach neu addysg uwch.


Sut mae defnyddio'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau?

Gall y Fframwaith eich helpu i ddeall a chymharu eich cymwysterau chi a rhai eich cyflogeion.

Mae'r diagram gwyntyll yn dangos lefelau'r Fframwaith a hefyd rai enghreifftiau o'r dysgu ar bob lefel. Mae'r lefel yn dangos pa mor heriol yw'r cwrs.  Er enghraifft, mae'n bosib y bydd yr un gwerth i gwrs ar lefel 2 a chwrs ar lefel 4 o ran credydau ond y bydd y cwrs ar lefel 4 yn fwy anodd. Mae dyfarnu credyd yn ffordd o gydnabod faint  a ddysgwyd, caiff un credyd ei roi am bob 10 awr o amser a dreuliwyd yn dysgu.

 Gan fod y Fframwaith yn cyfeirio at fframweithiau cymwysterau eraill y Deyrnas Unedig a hefyd yn cyd-fynd â'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd, gallwch hefyd gymharu cymwysterau y tu allan i Gymru. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os byddwch am weithio neu astudio mewn gwlad arall yn Ewrop (gan y gall cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gymharu lefel y cymwysterau â chymwysterau sy'n cael eu dyfarnu yn eu gwlad eu hunain). Mae hefyd yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch chi'n recriwtio staff o wledydd tramor.


Ydy hyfforddiant fy nghwmni i yn cael ei gydnabod o fewn y Fframwaith Credydau a Chymwysterau?

Er mwyn cael ei chydnabod o fewn y Fframwaith, rhaid i'r holl ddarpariaeth ddysgu gael ei datblygu yn unol â'r Egwyddorion Lefelau Uchel - mae hynny'n golygu bod yn rhaid bod gan y cwrs dysgu deitl, rhaid i'w ddiben fod wedi'i gyfleu i'r dysgwr, rhaid bod iddo werth credyd, rhaid i'r amser dysgu fod wedi'i ddiffinio, rhaid iddo fod yn seiliedig ar safonau cydnabyddedig a bod â deilliannau dysgu a meini prawf asesu wedi'u diffinio'n glir.

Os yw eich hyfforddiant mewnol yn cydymffurfio, caiff ei gydnabod yn awtomatig o fewn y golofn Dysgu Gydol Oes sy'n cydnabod cyrsiau dysgu y tu allan i addysg uwch a chymwysterau galwedigaethol a chyffredinol wedi'u rheoleiddio. Mae'n bosibl y byddwch am ystyried mynd at gorff cymwys* gan FfCChC fodd bynnag er mwyn cael ardystiad ffurfiol i wirio cydymffurfiaeth â'r Egwyddorion Lefel Uchel ac er mwyn sicrhau bod y dysgu wedi'i neilltuo ar lefel sy'n briodol.  

Os nad yw eich hyfforddiant mewnol yn cydymffurfio â’r Egwyddorion Lefel Uchel, efallai yr hoffech gysylltu â chorff dyfarnu yn y DU sydd wedi’i reoleiddio, er mwyn i lefel gael ei neilltuo i’r hyfforddiant, ac i geisio cael sicrwydd o ran cydymffurfiaeth, neu hyd yn oed er mwyn gwneud cais am achredu ffurfiol (sicrwydd ansawdd, ardystio a dynodi).


Rhagor o wybodaeth?

I ddysgu mwy am y Fframwaith Credydau a Chymwysterau ewch i llyw.cymru/ffcchc neu anfonwch e-bost at CQFW.Enquiries@llyw.cymru
ColegauCymru - ColegauCymru a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC)

Edrych ar y ddiagram FfCChC fel pdf

Canllaw i Gyflogwyr

Canllaw i Ddysgwyr