Pwy sy'n gymwys

Mae busnesau o Gymru, o bob maint ac mewn unrhyw sector yn gymwys.

Chi, y cyflogwr, fydd yn darparu'r rhan fwyaf o'r hyfforddiant a byddwch yn gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy a fydd yn trefnu'r hyfforddiant i'r prentis a rhaglen asesu iddo/iddi.

I gael gwybod mwy am sut y gall eich busnes gael budd, ffoniwch  linell gymorth Busnes Cymru ar
03000 6 03000, neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Caiff unrhyw un yng Nghymru dros 16 oed wneud cais am brentisiaeth a manteisio ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig.I gael mwy o wybodaeth am ddod yn brentis, ewch i gyrfacymru.com a dilynwch y ddolen prentisiaethau.