1. Cyflwyniad

Rhaid i unrhyw fath o werthuso ystyried llwyddiant yr holl broses o Gynllunio’r Gweithlu hyd at Ddatblygiad Gyrfa.  Mae gwerthuso llwyddiant camau unigol o'r ffordd rydych yn arwain, rheoli a datblygu eich pobl yn darparu sail ar gyfer adolygu effeithiolrwydd a gwerth eich arferion. 

Dangosir amrywiaeth o fesurau yn yr adran hon.

Mae Arolwg Staff Blynyddol yn ffordd ddefnyddiol o fesur agweddau a boddhad cyflogeion yn y busnes ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys:

  • Deall y busnes.
  • Dealltwriaeth o’u rôl.
  • Perthnasau weithio ar lefel rheolaeth llinell, tîm neu adrannol.
  • Hyfforddiant a datblygiad.
  • Iechyd a lles.

Am fwy o wybodaeth ar ymgysylltu â chyflogeion ewch i CIPD (Saesneg a bydd angen cofrestru) https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/relations/engagement

Os oes gan eich cwmni nifer fawr o gyflogeion efallai y byddwch am ddefnyddio darparwr allanol i ddylunio a dadansoddi arolwg. Fel arall, gallwch chi ddylunio a dosbarthu arolygon ar raddfa fach gan ddefnyddio templedi ar-lein gan sydd ar gael yn eang.

Yn yr un modd, bydd gwerthusiadau staff neu adolygiadau perfformiad rheolaidd hefyd yn rhoi syniad i chi am lwyddiant eich strategaethau pobl.

2. Cynllunio'r Gweithlu

Y ffordd orau i fesur llwyddiant cynllunio eich gweithlu yw trwy gymharu data cyfredol a blaenorol y cwmni, gan ddadansoddi tueddiadau, newidiadau ac achosion posibl.  Efallai yr hoffech edrych ar:

  • Cyfraddau trosiant staff.
  • Lefelau absenoldeb salwch.
  • Diffygion ansawdd oherwydd camgymeriad dynol.
  • Data busnes newydd / ailadroddus.
  • Damweiniau yn y gwaith a damweiniau a fu bron â digwydd.
  • Data ariannol (proffidioldeb, trosiant, ac ati).
  • Adborth cwsmeriaid ar berfformiad staff (cadarnhaol a chwynion).
  • Nifer y staff sy'n mynychu hyfforddiant.

3. Recriwtio

Gellir gwerthuso eich llwyddiant wrth recriwtio staff trwy gyfuniad o ddadansoddi data, holiaduron, grwpiau ffocws neu gyfweliadau. Efallai yr hoffech edrych ar:

  • Niferoedd ymgeiswyr.
  • Amrywiaeth ymgeiswyr (oed, rhyw, anabledd, lleoliad, cenedligrwydd, ac ati).
  • Nifer y cynigion cyflogaeth a dderbyniwyd / a wrthodwyd.
  • Adborth gan staff sydd newydd eu penodi.
  • Canran y swyddi wedi'u llenwi yn fewnol i gymharu ag allanol.
  • Llwyddiant ffynonellau hysbysebu, a chostau cysylltiedig.
  • Cyflymder penodi ymgeiswyr llwyddiannus o'r penderfyniad cychwynnol i recriwtio.

4. Cynefino

Mae rhywfaint o'r wybodaeth a amlinellwyd yn gynharach megis diffygion ansawdd, damweiniau, cyfraddau trosiant staff yn enwedig yn y 12 mis cyntaf, yn ddangosyddion defnyddiol o lwyddiant eich proses gynefino.

Ffordd arall o gael adborth gwerthfawr ar sut y gallwch wella'r broses gynefino yw dosbarthu holiadur i staff a benodwyd yn ddiweddar.

Gweler ein templed enghreifftiol Holiadur Rhaglen Cynefino yma

5. Datblygu Sgiliau

Yn gynharach yn yr adran Datblygu Sgiliau, fe drafodwyd rhai agweddau o werthuso ar ôl i hyfforddiant a datblygiad ddigwydd.

Mae casglu adborth ar raglenni hyfforddiant penodol yn rhoi syniad o’r gwerth i'r aelod o staff yn mynychu a gellir gweld effeithiau yn y tymor byr.  Bydd y gwerth bwriadedig i'r busnes yn fwy tebygol o gael ei weld yn y tymor hwy.

Gweler ein templed enghreifftiol Holiadur Rhaglen Hyfforddiant yma

Mae mesur llwyddiant eich dull hyfforddiant a datblygu yn gyffredinol ac nid yn unig digwyddiadau penodol yn helpu i benderfynu ar unrhyw newidiadau i gynlluniau yn y dyfodol.

Gall cwestiynau i'w hystyried cynnwys:

  • Sut fydd dysgu yn cael ei rhoi ar waith gan staff?
  • A yw’r canlyniadau a ddisgwylir wedi'u cyflawni? Os na, pam?
  • A yw’r sgiliau newydd neu wedi’i ddiweddaru wedi elwa’r tîm / adran / meysydd eraill?
  • A fu unrhyw fanteision busnes sylweddol?

6. Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Datblygiad Gyrfa

Yn gynharach yn yr adran hon, dangosom sut y byddai Arolygon Staff Blynyddol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.  Dylai eich arolwg gynnwys cwestiynau ynghylch arweinyddiaeth a rheolaeth, er enghraifft:

  • A ydych chi'n cael adborth rheolaidd ar eich perfformiad a pha mor aml?
  • A ydych chi'n cael y cyfle i wella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn y gwaith?
  • A ydych chi'n teimlo bod eich rheolwr yn eich cefnogi yn y gwaith?

Gall data arall sy'n gysylltiedig â recriwtio a chadw rheolwyr ddarparu dangosydd o lwyddiant eich strategaethau datblygu gyrfa a rheolaeth.  Os yw rheolwyr yn mynychu gweithgareddau datblygu allanol, yna gall yr awgrymiadau ar friffiadau cyn ac ar ôl y cwrs a amlinellir yn yr adran Datblygu Sgiliau fod yn gymwys hefyd.

Gair o rybudd:  Mae datblygiad rheolaeth a gyrfa yn strategaethau hirdymor.  Efallai na fydd eu llwyddiant yn amlwg am nifer o flynyddoedd.

Cronfa Wybodaeth Sgiliau