John M Blackwell BVSc MRCVS

Enw

John M Blackwell BVSc MRCVS

Lleoliad

Ffin Cymru/Swydd Amwythig (Y Waun/Croesoswallt/Ellesmere)

Prif Arbenigedd

Milfeddyg

Sector

  • Llaeth
  • Bîff
  • Defaid

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae John yn gyfathrebwr hyderus sy’n gallu gwrando ar ystod eang o safbwyntiau a syniadau a chyfrannu at ddatblygu cynllun clir at y dyfodol.

  • Mae’n eiriolwr brwd dros y safonau cynhyrchiant a lles uchel sydd gennym ni yn y diwydiant amaeth yng Nghymru, ond mae’n cydnabod bod y sector yn wynebu heriau o ran ychwanegu gwerth i’r defnyddiwr wrth i’r cynnyrch gael ei roi ar y farchnad.

  • Mae safonau iechyd a lles anifeiliaid ac effeithlonrwydd yn dechrau drwy leihau effeithiau clefydau ar y fferm, ac mae’n credu’n gryf mewn gwybod pa glefydau sydd ar ffermydd ei gleientiaid a sut i’w rheoli/gwaredu. 

  • Mae bioddiogelwch da ar yr uned yr un mor bwysig er mwyn cadw clefydau draw, ac mae’n credu’n gryf mewn adnabod risgiau a chadw stoc mor ddiogel â phosibl.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Cymwysterau / Cyraeddiadau / Profiad    Milfeddyg profiadol sydd wedi bod yn gweithio ym maes Cynhyrchu Anifeiliaid fferm ers 38 mlynedd.

  • Cyn Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain

  • Cyn Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain

  • Cynrychiolydd ar amrywiaeth o bwyllgorau Llywodraeth Cymru/Diwydiant

  • Is-gadeirydd Awdurdod Rheoleiddio Hyfforddiant Meddyginiaeth Anifeiliaid  (AMTRA)

Awgrym /Dyfyniad

Cyngor da / Dyfyniad    Mae gennym frand unigryw yng Nghymru y gallwn oll gydweithio ac ymfalchïo ynddo