Gareth Griffiths

Enw

Gareth Griffiths

Lleoliad

Gorllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)

Prif Arbenigedd

Cynllunio rheoli maetholion, dadansoddi busnes, Meincnodi, Rheoli Rheoliadau Llygredd Amaethyddol, Hwyluso grwpiau trafod.

Sector

Llaeth, Bîff, Defaid ac âr

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Magwyd Gareth ar fferm gymysg llaeth, bîff a defaid yn Sir Gaerfyrddin ac mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant amaethyddol ar ffermydd a rolau proffesiynol eraill o fewn y diwydiant.
  • Unigolyn craff, dibynadwy gyda llygad am fanylion sy'n mwynhau helpu busnesau ffermio
  • Mae gan Gareth gymwysterau FACTS ac mae ganddo ddealltwriaeth dda iawn o argymhellion calch, gwrtaith a thail organig yn ogystal â rheoli pridd ar gyfer glaswelltir a chnydau âr ac mae’n gallu cwblhau cynlluniau rheoli maetholion
  • Mae Gareth wedi gweithio gyda nifer o grwpiau trafod ers bron i 8 mlynedd ac wedi rheoli a helpu i hwyluso’r grwpiau er mwyn helpu aelodau i wella eu busnesau a dysgu oddi wrth ei gilydd.
  • Mae gan Gareth sgiliau dadansoddi busnes sy'n anelu at nodi cryfderau, gwendidau busnes, a meysydd i'w gwella er mwyn rhedeg busnes proffidiol a chynaliadwy.
  • Mae gan Gareth ddealltwriaeth dda iawn o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a gall gynorthwyo ffermwyr gyda’r gofynion cadw cofnodion a gwaith papur perthnasol.
  • Mae gan Gareth brofiad o weithio ar fesur ôl troed Carbon a gall gynnal archwiliadau Carbon i ffermwyr
  • Mae Gareth yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf BSC mewn Amaethyddiaeth
  • Gwobr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am y Myfyriwr Gorau mewn Amaethyddiaeth yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth
  • Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips. Prifysgol Aberystwyth
  • FACTS ac Aelod o gofrestr Broffesiynol BASIS
  • Aelod cyswllt o BIAC (Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain)
  • Cwblhawyd y Cwrs Hwyluso Olyniaeth gyda Sian Bushell yn 2022.
  • Dros 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant amaethyddol

Awgrym /Dyfyniad

“Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant llawn cyfleoedd cyffrous. Mae sicrhau bod eich busnes yn broffidiol ac yn gynaliadwy yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa i allu addasu a newid os oes angen, a gwneud y gorau o unrhyw gyfleoedd a all godi. Mae paratoi yn allweddol.”