Dr Rose Charnley MRCVs BSc PgMs

Name

Dr Rose Charnley MRCVs BSc PgMs

Lleoliad

The Cattle Vet Ltd

Prif Arbenigedd

Nutrition Consultant & Mastitis Consultant

Sector

  • Cyngor Milfeddygol Arbenigol
  • Iechyd, Lles a Bioddiogelwch Technegol

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Ymgynghorydd Maeth: 
    Fel ymgynghorydd, mae Rose yn darparu cyngor penodol o ansawdd da ar faeth gwartheg llaeth a bîff a defaid er mwyn darparu ateb cost effeithiol i wella allbynnau fferm gan hefyd gynnal safonau iechyd a lles anifeiliaid.
    Mae hwn yn wasanaeth cwbl annibynnol gan nad oes gan Rose unrhyw gysylltiadau gyda chwmnïau porthiant, felly iechyd, lles a chynhyrchiant yr anifail yw ei phrif flaenoriaeth.

  • Ymgynghorydd Mastitis: 
    Mae cynhyrchu llaeth yn cynnig nifer o heriau, gydag ansawdd llaeth yn un o’r heriau hynny. Mae gwaith Rose ym maes maeth yn pennu cynnyrch a solidau llaeth. Fodd bynnag, mae rheoli cyfrif celloedd a llwyth bacteria yn hanfodol er mwyn osgoi cosbau ariannol. Mae’r rhain yn ddibynnol iawn ar yr amgylchedd a’r peiriant godro. O ganlyniad, mae asesu’r peiriant llaeth a’r arferion hwsmonaeth yn galluogi Rose i ddarparu trosolwg llawn o’r broses o gasglu llaeth a chysylltiad y fuwch gyda’r peiriant godro a’r amgylchedd. Gall Rose sicrhau bod ansawdd y llaeth, iechyd a lles yr anifail yn cael eu cynnal ar y lefel uchaf.
     

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Gradd Meistr mewn Maeth Gwartheg
  • Yn berchen ar ei chwmni cynghori annibynnol ei hun yn darparu cyngor yng Nghymru, Cernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Swydd Amwythig. 

Awgrym /Dyfyniad

Gall bwydo’r fuwch yn effeithiol gan gadw iechyd yr anifail mewn cof gynnig buddion hirhoedlog o ran iechyd a lles, a all sicrhau cynnyrch a chynhyrchiant o’r safon uchaf.