Enw

Dr Jon Chantrey BVetMed MRCVS

Lleoliad

Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro 

Prif Arbenigedd

Llaeth a Bîff

Sector

  • Cyngor Milfeddygol Arbenigol
  • Agweddau technegol yn ymwneud ag Iechyd a Lles anifeiliaid a Bioddiogelwch

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Dechreuodd Jon ei yrfa fel milfeddyg cymysg, gan ddysgu sgiliau cyfathrebu effeithiol yn sydyn iawn wrth ymdrin ag ystod eang o gleientiaid a mathau o bersonoliaethau.
  • Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol er mwyn ennyn ymddiriedaeth a datblygu dealltwriaeth dda o systemau fferm cymhleth, sy’n ei alluogi i ddarparu cyngor ar lefel uchel wedi’i deilwra i bob fferm i sicrhau’r budd gorau.
  • Wedi iddo ganolbwyntio ar filfeddygaeth yn ymwneud â gwartheg am sawl blwyddyn, mae Jon wedi datblygu gwybodaeth fanwl yn ymwneud â ffrwythlondeb, maeth, mastitis, cloffni, rheoli clefydau heintus ac iechyd anifeiliaid.
  • Mae Jon yn ymfalchïo mewn cydweithio gyda’i gleientiaid ar ddulliau ataliol i warchod iechyd y fuches, er mwyn gallu cynnal lefelau lles a chynhyrchiant anifeiliaid, sy’n cynnig gwerth ychwanegol o gynnal proffidioldeb ar y fferm.
  • Unwaith mae cleientiaid yn gweld budd ffermio yn y ffordd hon, nid ydynt yn edrych yn ôl. 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Cofrestredig gyda RCVS 
  • Ymgynghorydd mastitis Quarter Pro 
  • Ymgynghorydd Johne’s BAJVA  
  • Milfeddyg swyddogol
  • 4 mlynedd o weithio gyda gwartheg godro a bîff
  • Mae un o’i gyraeddiadau diweddar yn cynnwys helpu fferm laeth sy’n lloia mewn bloc yn yr Hydref i dynhau eu patrwm lloia o 25 wythnos yn 2021: byddant nawr yn  lloia dros gyfnod o 17 wythnos yn 2023, gan anelu at floc o 12 wythnos erbyn 2024.

Awgrym /Dyfyniad

“Mae atal yn well na gwella, a dyma’r allwedd i ffermio effeithlon a phroffidiol – mae gwartheg iach yn wartheg proffidiol.”