Ydych chi wedi gwerthuso eich busnes fferm neu goedwigaeth yn ddiweddar? Ydych chi’n gwybod sut mae’r busnes yn perfformio nawr a pha mor dda y mae’n debygol o berfformio yn y dyfodol yn dilyn Brexit? Ydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddiogelu eich busnes ar gyfer y genhedlaeth nesaf?

Er mwyn annog mwy o fusnesau cymwys yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a ddisgwylir, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y meini prawf ar gyfer ymgeisio am elfennau penodol o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn ddiweddar. 

Mae’r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cefnogaeth cynllunio busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i ofynion pob ymgeisydd, a all gynorthwyo busnesau i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd ym mhob agwedd o'u busnes. Mae’r Gwasanaeth Cynghori wedi’i ariannu hyd at 80% ar gyfer unigolion cymwys a hyd at 100% ar gyfer pob unigolyn sy’n ymgeisio trwy’r categori ‘grŵp’.

elliw snip
Eglurodd rheolwr gwasanaethau Cyswllt Ffermio, Elliw Evans Hughes y gallai manteisio ar y gefnogaeth hon wneud gwahaniaeth mawr i'r modd y mae busnesau'n cael eu rheoli, nawr ac yn y dyfodol. 

“Dros y 18 mis diwethaf, mae bron i 850 unigolyn wedi cael mynediad at gefnogaeth trwy’r Gwasanaeth Cynghori ac mae nifer bellach yn nodi manteision sylweddol a fydd yn eu cynorthwyo i barhau i fod yn effeithiol, yn broffidiol ac yn wydn yn y tymor hir, er gwaetha'r ansicrwydd economaidd presennol."

Bydd y newidiadau i’r meini prawf yn fanteisiol yn benodol ar gyfer y busnesau hynny sydd eisiau cyngor technegol yn unig. Bydd mwyafrif y ffermwyr yn gweld gwerth cael strategaeth fusnes hir dymor i weithio tuag ato, ac felly mae angen cynllun busnes arnynt cyn y gallant ymgeisio. I’r rhai sydd angen cyngor technegol yn unig, bydd mynychu un o sioeau teithiol 'Ffermio ar gyfer y Dyfodol' Cyswllt Ffermio, a gynhelir mewn lleoliadau ledled Cymru o ddiwedd Ebrill, yn golygu y byddant yn gymwys i allu ymgeisio am gyngor technegol.  

Gall pob busnes ymgeisio am bedair achos o gyngor yn ystod cyfnod y rhaglen bresennol.  Dan y meini prawf newydd, gall hynny gynnwys cyfuniad o gyngor o gategorïau busnes a thechnegol, neu gallant fod o fewn unrhyw gategori unigol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Gwasanaeth Cynghori, sut y gallai fod o fudd i chi, a'ch bod yn dymuno gwneud cais, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol.

Mae dyddiadau a lleoliadau pob un o'r sioeau teithiol 'Ffermio ar gyfer y Dyfodol' hefyd ar gael yma. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n mynychu’r digwyddiad fod yn bartner yn y busnes ac mae’n rhaid archebu lle ar-lein ymlaen llaw.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o