27 Mawrth 2018

 

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae 388 o ffermwyr, aelodau o’u teuluoedd neu weithwyr fferm wedi cael eu lladd ar ffermydd Prydain, ac o’r rhain, roedd 38 ohonynt yng Nghymru. Mae miloedd mwy wedi dioddef anafiadau difrifol sy’n dal i gael effaith yn ddyddiol ac wedi newid bywydau am byth.

Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), cydweithrediad rhwng pob un o’r sefydliadau allweddol sy’n cynrychioli amaethyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru, yn benderfynol o leihau’r ystadegau syfrdanol yma trwy berswadio ffermwyr o bob oedran i fynychu gweithdy rhanbarthol am hanner diwrnod sy’n ymwneud â diogelwch fferm cyffredinol. 

Bydd y digwyddiadau, sy’n rhan o raglen o weithgareddau codi ymwybyddiaeth, yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 4pm ar 17 Mai yng Ngholeg Glynllifon, Llandwrog LL54 5DU a 18 Mai yn Gelli Aur, Coleg Sir Gar SA32 8NJ, dan arweiniad Cyswllt Ffermio.  Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys arddangosiadau neu gyflwyniadau byr, ymarferol yn ymwneud â phynciau gan gynnwys trin da byw’n ddiogel; gweithio’n ddiogel ar uchder; defnyddio cerbydau pob tirwedd a pheiriannau fferm gan gynnwys peiriannau codi a thractorau, ac ymdrin â chemegion peryglus.

 

brian rees

Mae Brian Rees, un o hyfforddwyr mwyaf adnabyddus y DU ar gyfer diogelwch fferm, sy’n gadeirydd ar yr EFSP, yn dweud bod y rhain yn feysydd gwaith lle mae nifer fawr o ddamweiniau’n digwydd.

“Os bydd mwy o ffermwyr yn cael eu dysgu i adnabod y peryglon trwy fynychu un o’r gweithdai, ac yna’n gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol i’w lleihau, byddwn yn cymryd camau cadarnhaol iawn i fynd i’r afael â’r broblem.”

“Mae pob marwolaeth, pob anaf, a phob afiechyd yn un yn ormod, sy’n gallu cael effaith drychinebus a all newid bywydau teuluoedd ffermio.

 “Byddem yn annog ffermwyr o bob oedran i gymryd prynhawn i ffwrdd o’r gwaith i fynychu un o’r digwyddiadau, gan gynnwys myfyrwyr a ffermwyr ifanc sy’n cychwyn ar eu gyrfa yn y diwydiant.

“Gallai achub bywyd rhai, a byddwn yn dangos i chi bod nifer o ffyrdd y gallech leihau’r perygl o ddamweiniau ac anafiadau i chi, eich teulu a’ch gweithwyr, neu i rai sy’n ymweld â’ch fferm, megis milfeddygon, ymgynghorwyr proffesiynol neu rai sy’n cludo deunyddiau.

“Mae ystadegau’n dangos eich bod bellach chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd wrth weithio ar fferm nag ar safle adeiladu, felly mae sicrhau bod gennych wybodaeth am bob elfen o ddiogelwch ar fferm yn hanfodol.

“Nid ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu, a gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw neu golli eich bywoliaeth,” meddai Mr. Rees.

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gwblhau modiwl e-ddysgu’n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch ar y fferm, sy’n hanfodol os ydych yn dymuno gwneud cais ar gyfer cyrsiau defnyddio peiriannau. Am wybodaeth bellach ac i lawr lwytho taflen wybodaeth ar ddiogelwch fferm, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio. Mae gwybodaeth bellach am bob agwedd o ddiogelwch fferm ar gael ar www.hse/gov.uk/agriculture


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint