Sian, Aled and Rhodri Davies

Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir Gaerfyrddin

Treial: Gwella effeithlonrwydd porthi yn y fuches laeth

Fferm gymysg yw Cwmcowddu sy’n cynnwys buches o 120 o fuchod llaeth, 550 o famogiaid magu ac uned ieir dodwy 32,000. Mae’r fenter laeth wedi cynyddu mewn niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gosodwyd parlwr godro 20/40 De Laval newydd.

Dengys cymariaethau gyda’r traean uchaf o ffermydd yn y Data Arolwg Busnesau Fferm bod y defnydd o borthiant (kg/litr) a’r costau porthiant i bob litr yn uchel. Gan weithio ar gynnych o gyfartaledd o 7,000 litr i bob buwch, mae’r porthiant a brynir i mewn yn cyfrif am 2.7 tunnell o ddwysfwyd i bob buwch.

Nod y prosiect hwn fydd gwella effeithlonrwydd porthiant yn y fuches laeth gan roi pwyslais arbennig ar gydbwyso’r porthiant sydd ar gael gyda lefel briodol o fwydydd wedi eu prynu i mewn wedi eu dogni’n gywir. Bydd proffilio metabolig gwaed yn cael ei gyflawni ar fuchod sych ac ar ôl lloia i sicrhau bod y dogn yn bodloni’r gofynion ar bob cyfnod yn y llaethiad, a’u monitro mewn cymhariaeth â’r cynnyrch llaeth a’i ansawdd, cyflwr y buchod a dangosyddion perfformiad ffrwythlondeb allweddol.  

Gan ei bod yn fferm gymysg â thail dofednod a gwartheg ar gael i dyfu cnydau, bydd y prosiect hefyd yn anelu at gynhyrchu mwy o borthiant gartref i wella cynaliadwyedd a gwytnwch. Yn dibynnu ar y cyfuniadau am y costau lleiaf ar gyfer y gaeaf hwn, bydd cyfnewid elfen sy’n cael ei phrynu i mewn o’r dogn yn ffocws ar gyfer gwanwyn 2024 trwy dyfu cnwd newydd a lleihau’r ddibyniaeth ar fwydydd wedi eu prynu. 

Trwy yrru gwelliannau mewn effeithlonrwydd bwyd, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy trwy:

  • Leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • Cynnal a gwella’r ecosystem yn Cwmcowddu
  • Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion {
Ty Coch
Nigel Bowyer and family Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy {"preview
Glanalders
George Edward Wozencraft Glanalders, Radnorshire Un o brif yrwyr