Gwella pwysau cnwd garddwriaethol gyda bio-olosg glaswellt Molinia a phridd yn seiliedig ar dail/gwlân defaid

Cynhyrchir bio-olosg drwy'r broses pyrolysis sy'n cynhesu biomas gyda lefelau cyfyngedig o ocsigen yn bresennol. Gall y Bio-olosg a gynhyrchir fod mor uchel â 78% o garbon yn ogystal â lefelau isel o Hydrogen, Ocsigen, Nitrogen, Sylffwr, Ffosfforws, Potasiwm, Calsiwm ac elfennau a mwynau eraill.

Gellir cynhyrchu bio-olosg o amrywiaeth eang o ddeunyddiau. Fodd bynnag, ymchwiliwyd yn eang i’r defnydd o laswellt Molinia ar gyfer hyn. Mae gan fynyddoedd Cambria ardaloedd mawr o laswellt Molinia; rhywogaeth o weiryn collddail lluosflwydd sy’n tyfu'n bennaf ar bridd llaith, asid neu fawn. Mae da byw yn bwyta glaswellt Molinia pan mae’r gweiryn yn ifanc ond yn ddiweddarach yn y tymor nid oes modd i ddefaid ei dreulio, er y bydd gwartheg yn dal i'w bori. Yn yr hydref mae'n colli ei ddail yn llwyr. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar amrywiaeth a chynefin rhywogaethau yn ogystal â lleihau cynhyrchiant amaethyddol y tir, lleihau mynediad i hamdden, a chynyddu'r risg o dân.

Nid oes gan wlân cynffon defaid fawr o ddefnydd na gwerth, ond pan fydd yn dadelfennu, mae'n gweithredu fel ffynhonnell nitrogen sy’n cael ei ryddhau’n araf ac elfennau hybrin allweddol eraill, fel potasiwm, ffosfforws a haearn. Mae hyn yn golygu bod gwlân cynffon yn ddelfrydol ar gyfer compostio oherwydd y nitrogen ychwanegol yn y baw a'r ysgarthion.

Yn y prosiect dwy flynedd hwn sy'n rhedeg rhwng mis Hydref 2020 a mis Mehefin 2022 bydd pedwar ffermwr/tyfwr garddwriaethol profiadol o Ganolbarth a'r De Cymru’n treialu dau wahanol fath o bridd i ddarganfod eu heffeithiau ar gynnyrch ac ansawdd nifer o gnydau llysiau. 

  1. Bio-olosg glaswellt Molinia
  2. Deunydd gorwedd anifeiliaid wedi'i gyd-gompostio â gwlân defaid
  3. Deunydd gorwedd anifeiliaid gyda bio-olosg glaswellt Molinia  (gwlân 20%, tail 80%)

 

Gall manteision allweddol y prosiect gynnwys:

  • Darparu marchnad gynaliadwy ar gyfer glaswellt Molinia i hybu’r defnydd ohono a gwella bioamrywiaeth yr ucheldir
  • Datblygu dull (sy'n gynhyrchiol ynddo'i hun) i gynyddu faint o garbon a gaiff ei ddal a’i storio mewn pridd
  • Darparu dewis arall yn lle compostau mawn/cyflyrwyr pridd
  • Dangos sut y gellir gwella pwysau cnwd llysiau gyda deunydd ag ôl troed carbon isel yn lle gwrteithiau anorganig
  • Datblygu marchnad ar gyfer gwlân cynffon (nad oes ganddo unrhyw ddefnydd na gwerth ar hyn o bryd)