Pam fyddai Eurig yn fentor effeithiol

  • Mae Eurig yn rhan o fferm deuluol sy’n tyfu ac mae ei dad wedi rhoi cyfle iddo i ddatblygu’r busnes. Dan y Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid, mae’r teitl prif ddeiliad wedi ei drosglwyddo i Eurig ac mae’r fferm wedi mynd trwy raglen ehangu sylweddol
  • Roedd y datblygiadau yn cynnwys gosod isadeiledd sylweddol ar gyfer cynhyrchu llaeth yn broffidiol yn y tymor hir. Cynyddwyd nifer y gwartheg hefyd, ond parhaodd prif nod Eurig, sef sicrhau bod y busnes yn broffidiol
  • Trwy fod yn fferm arddangos Cyswllt Ffermio llwyddodd y teulu i gael cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr amaethyddol amlwg ac arbenigwyr sector, a derbyniodd Eurig y cyngor i wella’r fenter ar y fferm a’i sgiliau rheoli fferm.
  • Mae Eurig yn agored i syniadau newydd a thechnoleg newydd bob amser ac yn barod i wrando a dysgu gan eraill
  • Gall Eurig gynnig cefnogaeth ar y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd.

Busnes fferm presennol

  • Yn berchen ar 182 erw, 518 erw ar rent
  • Tri gweithiwr amser llawn gan fy nghynnwys i a phedwar o weithwyr rhan-amser heb fod ar oriau brig
  • Buches laeth 410 o fuchod yn lloea yn y gwanwyn gyda 280 o stoc ifanc
  • 12 o wartheg bîff

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio am dair blynedd
  • Diploma Genedlaethol mewn Amaeth, Gelli Aur, graddio 1999
  • Diploma Genedlaethol Uwch Tir ac Astudiaethau’r Tir, Prifysgol Harper Adams graddio 2001
  • Gweithio ym maes caffael i Gwmni Cig Cymru
  • Chwe mis yn gweithio yn Seland Newydd 2002
  • Aelod o’r Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid
  • Aelod o grŵp trafod Merlin
  • Aelod o Gymdeithas Tir Glas Canol Ceredigion. Ail yng nghystadleuaeth Rheoli Fferm 2015 ac enillydd glanweithdra llaeth buches fawr a’r enillydd cyffredinol
  • Cadeirydd Grŵp Trafod Amaethyddol Llambed 2015

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Ymdrechwch i wneud yn well bob amser.”

“Dwi’n credu bod pawb yn haeddu cyfle i lwyddo, ond ar y ffordd does dim o’i le mewn cael ychydig o help.”

“Ceisiwch gymysgu ag unigolyn sy’n llwyddo sydd ag agwedd iach at waith gan y gall hynny fod yn heintus.”

“Byddwch yn agored i syniadau a thechnolegau newydd a gwrando ar eraill a dysgu ganddyn nhw.”