Pam fyddai Bryn yn fentor effeithiol

  • Fel ffermwr tenant cenhedlaeth gyntaf o gefndir busnes, mae Bryn yn ceisio edrych ar amaethyddiaeth ac arallgyfeirio o bersbectif gwahanol. Mae'n mwynhau gwrando ar bobl, a gweithio gyda nhw i herio a phrofi syniadau a chyfleoedd. 
  • Ac yntau wedi sefydlu gwahanol frandiau mewn sectorau unigryw o ddiwydiant, mae Bryn yn mwynhau'r her o feddwl y tu allan i'r bocs a chreu llwybrau newydd posibl ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.
  • Mae Bryn wedi bod drwy'r broses gymhleth – ac sy’n aml yn hynod gystadleuol – o dendro ar gyfer fferm sy'n eiddo i'r cyngor, ac mae’n deall yr heriau sy'n wynebu newydd-ddyfodiad sy’n ceisio cymryd eu camau cyntaf i ffermio. 
  • Yn ystod ei gyfnod yn masnachfreinio, datblygodd Bryn ei set sgiliau i allu dadansoddi busnes. Roedd cymryd amser i ddeall setiau sgiliau ac uchelgais y perchennog busnes wrth weithio tuag at gynllun ar gyfer y dyfodol yn brofiad buddiol wrth gwblhau her Busnes ac Arloesi'r Academi Amaeth ar fferm amrywiol. 
  • Mae Bryn yn eiriolwr cryf dros y diwydiant defaid godro fel ffordd gynaliadwy a phroffidiol i ffermydd bach teuluol ennill bywoliaeth. Ac yntau eisoes yn cynorthwyo sawl menter newydd arall i fentro i gadw defaid godro, mae'n mwynhau gweithio gyda ffermwyr o'r cam cyntaf yn ffurfio syniad i odro eu defaid cyntaf. Ei nod yw sefydlu cwmni cydweithredol llaeth cyntaf Cymru, er mwyn helpu i dyfu a chefnogi'r sector hwn sy’n datblygu. 
  • Mae Bryn yn cyfaddef bod ganddo fwy i'w ddysgu o hyd, ond mae'n mwynhau datblygu ei hun a'i fenter drwy rannu profiadau ac ymweld â chymaint o ffermydd eraill â phosibl. Yn rhan o grŵp Y Genhedlaeth Nesaf NFU Cymru, mae Bryn bob amser yn edrych tua'r dyfodol ac yn cydweithio gyda ffermwyr talentog ac uchelgeisiol. 

Busnes presennol y fferm

  • Diadell o tua 120 o famogiaid llaeth Dwyrain Ffrisia-croes – gan weithio tuag at frîd sy'n addas ar gyfer hinsawdd Cymru. 
  • Diadell o 17 alpaca, sy'n 'gwarchod' yr ŵyn newydd ac sydd â marchnad barod am eu cnu. 
  • Ar ôl sefydlu mentrau cydweithredol â nifer o ffermwyr â’r un uchelgais ag yntau yng ngorllewin Cymru, mae Bryn a'i bartner, sydd yn eu 30au cynnar, bellach yn prosesu llaeth a’i gynhyrchu’n amrywiaeth o gawsiau llaeth mamogiaid Cymreig arbenigol o dan eu brand Ewenique Dairy, diolch i amrywiaeth o wasanaethau cymorth gan Cyswllt Ffermio a Chanolfan Bwyd Cymru.   
  • Maent hefyd wedi lansio 'Gwirodydd Ewenique' – eu brand eu hunain o fodca maidd mamogiaid.  

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • BA(Anrh) – Rheoli Busnes
  • Cyrsiau gwerthu a rheoli busnes amrywiol
  • Profiad o recriwtio ar draws ystod o sectorau a rolau
  • Enillydd Her Busnes ac Arloesi 2021 Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
  • Bŵtcamp Busnes Cyswllt Ffermio 2019
  • Aelod o grŵp Agrisgôp 2021-22 
  • Gwobr Goffa Brynle Williams 2021
  • Y Genhedlaeth Nesaf NFU Cymru 2022
  • Ar restr fer Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru 2022.

Prif gynghorion ar gyfer llwyddo mewn busnes  

"Treuliwch yr amser oddi ar y fferm yn chwilio am syniadau newydd ac yn dysgu gan bobl eraill. Mae'n anhygoel faint fyddwch chi'n elwa drwy wneud hyn."

"Manteisiwch ar yr holl gyfleoedd cymorth, hyfforddiant a rhwydweithio y gallwch chi - os ydych chi'n gweithio'n galed ac yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni, fe lwyddwch chi!"