Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod Blaenbwch

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys. 

Grŵp Trafod Blaenbwch

Yr Alban

2ail – 5ed Tachwedd 2017


Cefndir

Mae Grŵp Trafod Blaenwch yn cyfarfod bob ychydig fisoedd ac yn anelu i drefnu taith bob blwyddyn. Mae’r grŵp wedi cynnal dwy daith diwrnod yn y gorffennol a bu’r ddwy daith o fudd mawr i’r aelodau. Ar gyfer eu taith gyntaf bu’r grŵp yn ymweld Geraint Powell yn y Cotswold a oedd yn rheoli 5,000 o famogiaid. Yn ystod yr ail daith bu’r grŵp yn ymweld teulu’r Davies, Penlanlwyd a oedd yn rhenti tir y Pembrey gan y Fyddin ac yn cadw gwartheg sugno Luing. Roedd y ddwy daith yn ddiwrnodau trosglwyddo gwybodaeth ardderchog.

Ar gyfer 2017, dymuniad aelodau’r grŵp oedd ymweld ffermydd tu hwnt i Gymru i ehangu eu gwybodaeth amaethyddol a gweld sut y mae ffermwyr tu allan i Gymru yn addasu i newid. Dewiswyd tri busnes fferm adnabyddus a arferai fod yn ffermydd bîff a defaid traddodiadol ond sydd wedi defnyddio technegau ffermio newydd a chymryd cyngor gan eraill dros y blynyddoedd yn ogystal â meincnodi eu busnesau i wella unrhyw wendidau. O ganlyniad mae eu busnesau yn gryfach yn wyneb dyfodol amaethyddol ansicr. Maent hefyd wedi arallgyfeirio i fentrau amaethyddol eraill i wella arbedion a lleihau risg.

Y gobaith ar gyfer y daith yw y bydd y grŵp yn magu hyder a’r cymhelliant i archwilio eu busnesau i weld os oes unrhywbeth y gallant fod yn gwneud yn wahanol. Efallai y byddant yn penderfynnu gweithredu rhywfaint o’r hyn a welwyd ar eu ffermydd adref. 

Amserlen

Diwrnod 1 – Sir John Campbell, Glenrath Farms

Mae Sir John Campbell yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf. Fe brynodd Glenaeth Farm yn 1961 ar ôl iddo briodi merch i ffermwr dofednod. Roedd rhaid iddo werthu 70 acer o’i dir gorau er mwyn i’r fferm oroesi. Dechreuodd fagu cywennod i’w hailwerthu ac fe ddatblygodd y busnes o hynny.

Erbyn hyn, mae’r busnes yn cyflogi 18 aelod o’r teulu a 220 aelod o staff. Wedi’i leoli yn Ffiniau’r Alban, mae’r fferm yn ymestyn dros 15,000 acer gyda 11,000 o famogiaid magu a 600 o wartheg sugno mynydd. Maent yn gwerthu 1.5 miliwn o wyau yn uniongyrchol i archfarchnadoedd bob dydd. Yn ddiweddar buddsoddodd y busnes £6.5 miliwn mewn safle pasteureiddio a phrosesu wyau ac maent bellach yn un o ffermydd mwyaf yr Alban. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf maent wedi buddsoddi £60 miliwn er mwyn datblygu a moderneiddio’r ffermydd i’r safon a ddisgwylir gan fanwerthwyr stryd fawr y DU.

Arweiniodd Sir John Campbell daith o amgylch nifer o’r safleoedd wyau yn ogystal ag ymweliad â’r ffermydd stoc. Arferai un o’r ffermydd a ymwelwyd fod yn ganolfan ymchwil lle cafodd ‘Dolly’r Ddafad’ ei chlonio. Ychydig a wyddem am yr olygfa a arhosai amdanom gerllaw sef deg sied ieir 32 mil wedi’i gwasgaru ar draws y dyffryn, oll yn rhan o ffermydd Glenarth. Roedd yr olygfa yn syfrdanol, un a fydd yn aros yng nghof aelodau’r grŵp am amser maith.

Ni allai unrhyw un beidio â chael eu hysbrydoli gan frwdfrydedd Sir John Campbell tuag at ei fusnesau a’r diwydiant amaeth ehangach. Er ei fod yn 82 mlwydd oed, mae dal yn rhan o reolaeth y busnes cyfan o ddydd i ddydd yn ogystal â bod yn gyfrifol am werthiannau.

Cafodd y grŵp neges dda iawn o’r ymweliad. Dywedodd Sir John mai rhan bwysicaf y busnes yw gwerthiannau. Os nad ydych yn gwerthu, nid fydd unrhyw ran arall o’r busnes yn gweithio.

Diwrnod 2 – James Logan, Pirntaton Farm

Ar yr ail ddiwrnod bu’r grŵp yn ymweld Pirntaton Farm sef uned ucheldir da byw yn Ffiniau’r Alban. Dyma fferm 640ha, 570ha ohono’n ardal effeithiol, gyda’r tir yn codi o 230m - 520m. Arferai’r fferm redeg 120 o wartheg a tua 1,400 o famogiaid mewn system draddodiadol, gan werthu Aberdeen Angus a Miwls Pen-ddu’r Alban.

Yn 2013, penderfynodd y teulu wneud newidiadau sylweddol i’r busnes gyda’r nod i greu system ffermio nad oedd yn dibynnu ar werthiant stoc pedigri gwerth uchel a system a fyddai’n broffidiol a chynaliadwy heb gymorthdaliadau. Roedd y strategaeth yn canolbwyntio ar leihau costau cynhyrchu a lleihau’r archeb dwysfwyd 400 tunnell yn sylweddol tra’n parhau i gynyddu allbynnau trwy ddefnyddio glaswellt.

Newidiwyd geneteg y gwartheg gan newid i groesiad tair ffordd o’r bridiau Aberdeen Angus, Hereford a Stabiliser gan anelu at bwysau llawn dwf o 650-700kg. 900kg oedd y pwysau llawn dwf ar gyfer y gwartheg pedigri yn y gorffennol.

Cafodd y ddiadell Pen-ddu ei newid am Hill Cheviots wedi’u croesi gyda defaid Llŷn, gyda’r ŵyn benyw eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid ar gyfer y ddiadell llawr gwlad. Caiff defaid y ddiadell llawer gwlad eu croesi gyda’r bridiau Romney SN, Abertex a Llŷn. Adeg wyna, cedwir y defaid sy’n cario tripledi yn unig dan do yn ystod y nos gyda’r gweddill yn wyna tu allan.

Yn ogystal â newid geneteg, sefydlwyd system pori cylchdro a chafodd 130 o badogau oddeutu 3.5ha eu creu gyda stoc yn cael eu dosbarthu’n ofalus a chyfanswm ac ansawdd y porfa yn cael eu hamrywio trwy gydol y flwyddyn. Cafodd hyn effaith sylweddol ar gostau dwysfwyd a brynir i mewn, gydag arbedion y flwyddyn gyntaf yn talu am yr holl ffensio a chostau isadeiledd system ddŵr newydd sy’n cael ei fwydo gan ddisgyrchiant.

Mae’r holl newidiadau hyn wedi caniatáu iddynt gynhyrchu mwy o stoc oddi ar yr un faint o dir.

Maent wedi cyflwyno ceirw i’r system yn ddiweddar gan brynu 100 ewig eleni. Y nod yw cynyddu’r nifer hwn i 300 erbyn 2019. Bydd y ceirw tew yn cael eu gwerthu’n tua 15 mis oed i Dovecote Park ar gyfer Waitrose am bris o oddeutu £5.50 - £6.00 y kilo, gan anelu at gyrraedd pwysau o 65 – 70kg ar y bach.

Gyda chyfraddau bwyta cig oen yn disgyn 2% yn y DU a’r galw am gig carw yn codi 20 – 35%, mae’n ymddangos fel penderfyniad call. Fodd bynnag, ceir gwariant cyfalaf sylweddol o £700 fesul ewig i dalu am gostau’r ewig, ffensio a’r cyfleusterau trin.

Eto, cafodd y grŵp eu hysbrydoli gan benderfyniad y teulu i newid ei system ffermio’n llwyr er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer eu busnes.

Diwrnod 3 – Sion Williams, Bowhill Estate - Buccleuch Group

Y fferm olaf y bu’r grŵp yn ymweld oedd Bowhill Estate, fferm 10,300 acer sy’n rhan o’r Bucclech Group. Maent yn rhedeg 190 o wartheg Aberdeen Angus iechyd premiwm a defnyddir fel anifeiliaid cyflenwi ar gyfer gweddill y fuches. Cedwir y teirw gorau i’w gwerthu i ffermwyr pedigri a masnachol. Mae’r holl wartheg yn lloia mewn cyfnod naw wythnos sy’n dechrau ar y 1af o Ebrill. Cedwir 280 o wartheg sugno ychwanegol ar y fferm fynydd sef croesiadau Shorthorn yn bennaf gyda tharw Charlois yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o’r lloi bîff.

Caiff y lloi stôr eu dyfnu yn gynnar ym mis Medi ac maent yn cael eu cadw nes eu bod tua 14 – 18 mis oed. Arferai’r lloi gael eu gwerthu ar y fferm yn 10 – 12 mis oed. Roedd y lloi yn cael eu rhannu’n grwpiau gwahanol faint a gwahoddwyd prynwyr i’r fferm lle roeddent yn cyflwyno eu cynigion ar gyfer y grwpiau yr hoffent eu prynu. Roedd y prynwr gyda’r cynnig uchaf yn prynu’r grwpiau. Fodd Bynnag, llynedd cafodd y gwartheg TB ac maent bellach yn gorfod eu gorffen ar y fferm. Maent yn gobeithio dychwelyd i’r hen ffordd o werthu cyn gynted ag y maent wedi gwaredu’r TB gan nid ydynt yn derbyn llawer o elw o besgi’r gwartheg.

Roedd y fenter ddefaid yn cynnwys diadell fynydd o 3,850 o famogiaid magu Pen-ddu’r Alban a oedd yn cael eu cadw ar 7,375 acer o rostir grugog. Yr arfer bridio cyffredinol oedd cynhyrchu anifeiliaid cyflenwi trwy fridio defaid Pen-ddu pur neu trwy groesi hyrddod Innovis a oedd yn cynyddu tyfiant a maint yr ŵyn. Defnyddiwyd gweddill yr ŵyn ar gyfer cynhyrchu ŵyn tew a oedd yn cael eu gwerthu i Sainsbury’s. Roedd y ddiadell llawr gwlad yn cynnwys 1,350 o famogiaid croes megis Miwl yr Alban, Aberfield ac Aberdale (oll yn groesiadau mamol i’r brid Pen-ddu’r Alban). Cedwir y rhain yn bennaf ar gyfer cynhyrchu ŵyn tew. Roeddent hefyd yn cynhyrchu stoc bridio pur gyda’r bridiau Texel a Primera gan werthu’r hyrddod a chadw’r defaid fel anifeiliaid cyflenwi.

Roeddent hefyd yn rhedeg menter ddofednod ar y fferm gydag uned 32,000 o ddofednod ar gyfer dodwy wyau maes. Roedd hwn yn brosiect arallgyfeirio ar wahân i’r busnes fferm gan nad oedd yn dibynnu ar gymorthdaliadau amaethyddol. Cafodd yr uned ei hadeiladu yn 2005 ac mae wedi bod yn ased gwerthfawr i’r busnes gan ei fod yn cynhyrchu tail ieir sy’n cael ei ddefnyddio yn y treuliwr anaerobig.

O ran ynni adnewyddadwy, roedd gan y fferm system Solar PV 50Kw a gafodd ei osod i gyflenwi’r sied ddofednod. Roedd ganddynt hefyd safle treulio anaerobig 200Kw. Roedd y safle, a oedd yn rhedeg yn bennaf ar dail a gynhyrchir ar y fferm, yn cynhyrchu trydan ar gyfer y grid gan gynhyrchu llawer mwy na beth oedd angen ar y fferm. Roedd y tail o’r safle treulio anaerobig yn cael ei sychu a’i ddefnyddio fel deunydd oddi tan yr anifeiliaid neu fel gwrtaith ar y glaswelltir a’r cnydau tir âr. 

Dywedodd Sion nad oedd llawer o arian yn y fenter wartheg ond bod cymorthdaliadau yn ei annog i gadw’r gwartheg gan y byddai’n cael ei hanneri heb y gwartheg. Roedd Sion wedi cael ei annog i roi ffens o amgylch rhai ardaloedd o’r mynydd i atal y gwartheg rhag pori’r tir ac arweiniodd hyn at hwb economaidd i’r fferm. Mae gwneud hyn hefyd wedi caniatáu iddo ymgeisio am grant 40% i osod safle gwartheg newydd ar y fferm.

Cafodd y safle treulio anaerobig, a’r system syml yn defnyddio tair prif elfen - tail ieir, tail gwartheg/slyri a silwair, argraff fawr ar y grŵp. Mae’r busnes yn elwa’n fawr ar y buddsoddiad £1.4 miliwn hwn gyda £1,000 o elw yn cael ei gynhyrchu bob dydd.

Camau Nesaf

Bu’r daith yn llwyddiannus iawn a darparodd gyfle trosglwyddo gwybodaeth gwych. Bu’r grŵp yn rhyngweithio’n dda gyda’r ffermwyr a chafwyd llawer o wybodaeth ar sut yr oeddent yn rhedeg eu busnesau. Mae llawer o’r ffermwyr yn awyddus i symud eu busnesau yn eu blaen gan ddefnyddio’r opsiynau ynni adnewyddadwy neu ddofednod ar gael ond yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn ôl, yn enwedig ar yr ochr dofednod gyda phroblemau cynllunio megis ardaloedd SoDdGA gerllaw’r safleoedd arfaethedig.   

Mae’r un problemau cynllunio yn bodoli gyda’r prosiectau ynni adnewyddadwy a cheir problem ychwanegol sef nad oes gan geblau gwledig presennol y gallu i drosglwyddo trydan yn ôl i mewn i’r grid. Mae’r problemau hyn yn cyfyngu gallu ffermwyr i arallgyfeirio a chynyddu incwm eu ffermydd. Teimla aelodau’r grŵp bod Llywodraeth Cymru yn annog ffermwyr i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol ond eu bod hefyd yn dal ffermwyr yn ôl gyda gormod o gyfyngiadau a rheoliadau.

Cafwyd taith lwyddiannus iawn yn enwedig gan fod y ffermwyr yn hapus i drafod arferion gorau, syniadau newydd a’r gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd er mwyn symud eu busnesau yn eu blaen.

Mae’r grŵp hefyd yn ffordd dda i ffermwyr gyfathrebu. Gall ffermio fod yn yrfa unig gyda llai o bobl yn gweithio ar ffermydd a’r mwyafrif o stoc yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i ladd-dai yn hytrach na trwy farchnadoedd lleol a arferai fod yn gyfle da i ffermwyr sgwrsio. Cafodd y ffermwyr seibiant o’i ffermydd a’r cyfle i rhyngweithio gyda ffermwyr o’r un anian tra’n dysgu am syniadau newydd y gallant eu defnyddio adref. Mae oedran yr aelodau yn amrywio o 18 – 61 mlwydd oed felly cafodd gwybodaeth werthfawr ei drosglwyddo yn enwedig o ran y manteision o ddefnyddio technoleg newydd yn y dyfodol.

Bydd y grŵp yn parhau i gynnal cyfarfodydd er mwyn trosglwyddo gwybodaeth yn y dyfodol.