Elaine Rees Jones

Elaine agrisgop 0

Enw: Elaine Rees Jones

Lleoliad: Yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru

E-bost: elaine.reesjones@agrisgop.cymru

Rhif ffôn: 07968 981332

Arbenigedd: Arallgyfeirio, Dofednod, Ynni adnewyddadwy, Hyfforddiant, Llety twristiaeth, Bwyd-amaeth

  • Fel cyfathrebwr profiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Elaine yn cyfuno ei gwybodaeth a’i hangerdd dros amaethyddiaeth a materion gwledig â’i gallu i feddwl yn strategol, craffter busnes a sgiliau hwyluso. Mae Elaine wedi meithrin y sgiliau hyn ar ôl blynyddoedd lawr o brofiad ymarferol o weithio yn y diwydiant fel ffermwr, cynghorydd, ac arweinydd Agrisgôp sydd wedi hwyluso dros 70 o grwpiau, ar-lein ac wyneb yn wyneb. 
  • Mae gan Elaine brofiad uniongyrchol o helpu teuluoedd ffermio i fynd i’r afael â’r heriau a’r goblygiadau o ran costau ac adnoddau sydd ynghlwm â sefydlu busnesau a mentrau newydd llwyddiannus. Mae hi’n canolbwyntio’n bennaf ar helpu ffermwyr i ddatblygu ffrydiau incwm newydd neu ddulliau gweithio mwy effeithlon a chynaliadwy. Ei nod bob amser yw sicrhau bod ei haelodau yn cael eu hysgogi, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn cael eu hannog i gyflawni eu nodau.  
  • Mae Elaine yn ferch i ffermwr, yn wraig fferm ac yn fam i dair merch oedran ysgol. Mae hi a’i gŵr yn bartneriaid busnes ar fferm denant yn yr ucheldir lle maent yn cadw bîff, defaid a dofednod. Maent hefyd wedi arallgyfeirio gan sefydlu nifer o fentrau llwyddiannus. 
  • Yn 2012, buddsoddodd y ddau mewn menter ynni adnewyddadwy, gan godi’r cyntaf o ddau dyrbein gwynt ar y fferm gan eu galluogi i leihau gwariant y fferm ar ynni ac ennill incwm ychwanegol drwy werthu i’r grid.   
  • Yn 2018, gwnaethant sefydlu uned ddofednod fasnachol sy’n cael ei gwresogi gan ynni biomas. 
  • Yn fwy diweddar, maent wedi buddsoddi mewn llety twristiaeth o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 18 o ymwelwyr, drwy brynu dau eiddo cyfagos.  Mae trydydd eiddo yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ym mhentref twristiaeth ‘pot mêl’ Betws y coed, a fydd yn ychwanegu 22 gwely.

Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol

  • Mae Elaine yn frwd o blaid datblygiad personol a dysgu gydol oes, ac mae hi wedi dilyn amryw o gyrsiau byr, achrededig ar bynciau ariannol a busnes yn ymwneud ag amaethyddiaeth, dynameg y teulu, cynllunio olyniaeth, marchnata a mwy. 
  • Mae hi’n gynghorydd cymeradwy ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio (mae ei phynciau arbenigol yn cynnwys arallgyfeirio/ynni/prosiectau dofednod masnachol).