Ychwanegu'r mentor Beate Behr i'r drop down 

  • Mae gan Alex Ellis brofiad uniongyrchol o ddatblygu a thyfu Border Honey, sydd bellach yn un o'r busnesau ffermio gwenyn mwyaf yng Nghymru.  Mae hyn yn ategu ei brofiad llawer ehangach yn y sector cadw gwenyn masnachol a'r diwydiant cadw gwenyn cyffredinol, trwy ei rôl gyda’r Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn (BFA) ac, yn ddiweddarach, fel cyfarwyddwr sefydlol The Beekeeping Show (digwyddiad sioe fasnach yn y DU).

  • Mae'n ymwneud yn weithredol â mentrau yng Nghymru yn y sector bwyd a diod ehangach, gan gynnwys Cywain (sydd wedi cynnwys darparu cymorth mentora/ymgynghori i gymheiriaid yn y diwydiant) a Chlwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru.

  • Un o themâu sylfaenol sawl agwedd ar ei rôl gyda'r BFA yw rhannu gwybodaeth – fel golygydd cylchgrawn Bee Farmer, sefydlu grwpiau cyfnewid gwybodaeth, a thrwy drefnu gweithgareddau a digwyddiadau datblygiad proffesiynol i wenynwyr. Yn gyfathrebwr hyderus a gwrandäwr da, mae Alex - oedd gynt yn ymwneud ag addysg bellach - yn edrych ymlaen at rannu ei wybodaeth a'i brofiad gyda busnesau cadw gwenyn sy’n datblygu.
     

Busnes fferm presennol

  • Ffurfiwyd Border Honey yn 2014, gan ddarparu gwasanaethau ymgynghori o fewn y diwydiant gwenynyddiaeth ochr yn ochr â chynhyrchu cynradd a gwerthu mêl trwy sianeli manwerthu uniongyrchol (marchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd, ac ati). Ers hynny, mae'r busnes wedi tyfu ei allbwn, gan gynhyrchu a gwerthu 
    10+ tunnell o fêl mewn swmp o'i 250+ o gytrefi (cychod gwenyn) yn ystod 2023. 

  • Gan dyfu'n barhaus, mae'r cwmni bellach yn un o'r cynhyrchwyr mêl mwyaf yng Nghymru ac o fewn y 50 uchaf yn y DU gyfan. Yn frwdfrydig ac uchelgeisiol, nod nesaf Alex yw i Border Honey fod o fewn yr 20 uchaf o fewn y tair blynedd nesaf! 

  • Yn 2016, creodd adleoli i safle gwaith byw y cyfle i ehangu gweithgareddau cynhyrchu cynradd ac, yn 2017, sicrhawyd cyllid drwy Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) Llywodraeth Cymru i sefydlu cyfleuster prosesu mêl mewn swmp, wrth i gynhyrchu a chyflenwi mêl mewn swmp i bacwyr mêl arbenigol a busnesau gweithgynhyrchu bwyd gael eu hystyried yn gyfle allweddol. 

  • Fel busnes mêl o Gymru, mae Border Honey yn parhau i ganolbwyntio'n unigryw ar gynyddu argaeledd cadwyn gyflenwi mêl Cymreig/Prydeinig mewn swmp i ateb y galw gan gwsmeriaid y diwydiant, yn hytrach na datblygu ei frand manwerthu defnyddwyr ei hun. 

  • Roedd ymadawiad y DU o'r UE wedi arwain at y canlyniad ymarferol o leihau argaeledd da byw ar gyfer anghenion diwydiant gwenynyddiaeth y DU (newidiadau i reoliadau mewnforio). Gan weld hyn fel cyfle arallgyfeirio posibl, yn 2022, daeth Border Honey yn bartneriaeth (busnes teuluol), ac ymunodd partner Alex, Nicky, â'r cwmni i sefydlu uned gynhyrchu breninesau ar raddfa fasnachol. Yn un o ychydig o gynhyrchwyr arbenigol yn y DU, mae'r busnes bellach yn magu da byw i'w gwerthu i gwsmeriaid proffesiynol yn bennaf yn ogystal â rhai gwenynwyr hamdden. Lansiwyd gwefan e-fasnach i gefnogi'r gweithgaredd hwn a sicrhawyd nod masnach ar gyfer 'Border' i ddiogelu'r brand yn y categorïau perthnasol. 

  • Ym mis Ebrill 2023, cyflogodd Border Honey ei weithiwr cyntaf fel prentis llawn amser (merch y cwpl, Ros) ac felly mae ail genhedlaeth o'r teulu bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, gyda golwg ar olyniaeth yn y dyfodol.

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • Gradd mewn Dylunio Graffig
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg 
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheolaeth
  • Meistr mewn Gwenyna Cymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA)
  • Amrywiol gymwysterau ymarferol perthnasol eraill – e.e. Diogelwch Bwyd, HACCP

Profiad:

  • Gwenynwr am 20 mlynedd
  • Swyddog Gwasanaethau Aelodaeth y Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn (BFA) 
    2014-2023; Roedd y prif weithgareddau yn cynnwys: sylfaenydd a golygydd cylchgrawn Bee Farmer, cydlynydd BFA ar gyfer prosiect Grwpiau Cyfnewid Gwybodaeth ADAS/BFA, trefnydd ymweliadau datblygiad proffesiynol yn y DU ac Ewrop, cydlynydd BFA ar gyfer Y Cynllun Sicrwydd rhag Clefydau Gwenyn Mêl (DASH) Apha/BFA. Yn 2024, mae Alex yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau o fewn BFA.
  • Cyfarwyddwr Bee Craft Magazine 2017-2022 (Prif Weithredwr 2019-2022)
  • Cyfarwyddwr Sefydlu The Beekeeping Show 2023
  • Aelod o Glwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru ers ei sefydlu

Successful funding applications in support of business growth to:

  • Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) Llywodraeth Cymru 2017 
  • Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (FBAS) Llywodraeth Cymru 2023
  • Cronfa Brentisiaethau y Queen Elizabeth Scholarship Trust (QEST)

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes

"Mae gweithio mewn modd cydweithredol a chefnogol yn talu ar ei ganfed wrth sefydlu perthnasoedd busnes cynaliadwy."
"Edrychwch y tu allan i'ch sector diwydiant eich hun i weld beth allai gael ei ddysgu gan eraill."