COVID-19 Bwyd a Diod Cymru


Levercliff Covid-19 Canfyddiadau'r Arolwg Defnyddwyr - Rhifyn 4

Wrth i sefyllfa'r coronafeirws newid ledled y DU mae'n ddiddorol gweld sut mae defnyddwyr yn teimlo a sut mae nhw'n meddwl bod eu bywydau yn newid.

Cliciwch yma i weld canfyddiadau'r arolwg. (Saesneg yn unig)


Busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu: cwestiynau cyffredin (Covid-19)

Noder bod y Cwestiynau Cyffredin ar Busnesau Twristiaeth, Lletygarwch a Manwerthu bellach wedi'u diweddaru gyda chanllawiau ychwanegol ar y cyfyngiadau teithio newydd, cwestiynau cyffredin pellach ar gyfyngiadau gwerthu alcohol, beth i'w wneud os bydd gwesteion yn datblygu symptomau Covid-19, ac adran newydd yn ymdrin a 'chwestiynau eraill' sy'n cael eu derbyn am farchnadoedd tymhorol a materion eraill.


Cefnogi adferiad busnesau a chadwyni cyflenwi ar ôl Covid-19

Mae Covid-19 yn effeithio’n aruthrol ar sector bwyd a diod Cymru ac mae’n bygwth parhad busnesau. Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru eisoes yn cymryd camau i gefnogi’r sector drwy’r effaith gychwynnol hyd at gamau cyntaf yr adferiad. Er mwyn cyflawni hyn mae gennym rai amcanion syml:

  1. Sicrhau bod cynifer â phosibl o fusnesau bwyd a diod yn goroesi’r anawsterau cychwynnol a achoswyd gan Covid-19 a chynnal rhwydweithiau’r cadwyni cyflenwi yn y sector ac mewn meysydd cysylltiedig.
  2. Lleihau’r colledion swyddi yn y sector.
  3. Cefnogi’r sector i ddod at ei hun cyn gynted â phosibl nes bod gwerthiant yn cynyddu unwaith eto.
  4. Targedu’r cymorth at atebion sy’n cyd-fynd â’r farchnad ac sy’n adlewyrchu’r newid yn y dirwedd fasnachu lle mae risg ychwanegol hefyd o darfu yn sgil Brexit.
  5. Aros ar y llwybr tuag at ein nodau strategol hirdymor.

Gweler y ddogfen yma: Cynllun adfer Covid