BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sbardun Twf Shott (Shott Scale Up Accelerator)

building blocks with arrows

Rhaglen ddeuddeg mis yw Sbardun Twf Shott (Shott Scale Up Accelerator) sy'n datblygu, yn meithrin ac yn cryfhau galluoedd arwain uwch wneuthurwyr penderfyniadau mewn BBaChau sy’n ymwneud â pheirianneg a thechnoleg uchel eu twf er mwyn codi eu busnes i'r lefel nesaf.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn cael y cyfle i gael arweiniad personol gan hyfforddwr arweinyddiaeth a mentor a ddewiswyd o blith rhwydwaith o beirianwyr gorau sector ddiwydiannol y DU. Byddwch hefyd yn cael £10,000 i'w wario ar yr hyfforddiant arweinyddiaeth gorau a gynigir unrhyw le yn y byd, a hyn oll â’r bwriad i roi'r adnoddau i chi dyfu eich busnes newydd.

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?

Mae'r rhaglen yn chwilio am:

  • Uwch arweinwyr (e.e., Prif Swyddog Gweithredol, Prif Swyddog Technoleg, Prif Swyddog Cynnyrch).
  • Mae croeso i beirianwyr a rhai nad ydynt yn beirianwyr sy'n gweithio mewn BBaChau sy’n ymwneud â pheirianneg a thechnoleg ac sydd wedi'u lleoli yn y DU wneud cais.
  • Mewn cwmni uchel ei dwf sydd wedi codi o leiaf £1 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti, neu drosiant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (neu gyfuniad o’r ddau). Os ydynt yn gweithredu ym maes Technoleg Feddygol, bydd grantiau hefyd yn cyfrif tuag at gyfanswm y buddsoddiad a godwyd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4pm ar 28 Mai 2024. Gellir dod o hyd i’r meini prawf cymhwysedd yma: Shott Scale Up Accelerator - Eligibility (raeng.org.uk)

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Shott Scale Up Accelerator - Programme (raeng.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.