BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gem arswyd saethwr zombie o Gymru ar frig siartiau gemau rhyngwladol

Sker Ritual game screenshot

Ar ôl lansio wythnos ddiwethaf, daeth Sker Ritual, gêm arswyd gothig gyda stori gefndir yng Nghymru, yn un o'r gemau PC a chonsol a werthodd orau yn y byd. – gan gyrraedd y 3 uchaf ar Steam, y 5 uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation.

Mewn safle uwch na gemau sydd wedi'u sefydlu'n fyd-eang fel FIFA 24, Call of Duty a Grand Theft Auto, Sker Ritual yw'r gem gan Wales Interactive o Benarth sy'n  dilyn Maid of Sker yn 2020 sydd wedi'i hysbrydoli gan y gân werin Gymreig 'Y Ferch o'r Sger'. Mae'r gân yn adrodd hanes Elisabeth Williams, menyw ifanc a garcharwyd gan ei thad yn Sker House, lleoliad go iawn ger Porthcawl, i'w hatal rhag priodi'r dyn yr oedd yn ei garu. Dywedir iddi farw o dorcalon.

Yn ogystal â'r lleoliadau cyfarwydd a'r stori gefndir, dylai chwaraewyr Cymru hefyd wrando am ddarnau o ddeialog a dyfyniadau o emynau Cymraeg a ddefnyddir ar drac sain gemau'r Sker wrth iddynt geisio saethu nifer ddi-ddiwedd o zombies.

Mae Wales Interactive, y cwmni o Benarth y tu ôl i Sker Ritual, yn cyhoeddi gemau fideo a ffilmiau rhyngweithiol arobryn sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Cymru Greadigol yn y gorffennol - yr asiantaeth fewnol a sefydlwyd i helpu i ddatblygu'r sectorau Creadigol yng Nghymru.

Gyda'i gilydd, mae stiwdio a phortffolio Wales Interactive o deitlau wedi derbyn dros 140 enwebiad ar gyfer gwobrau a thros 60 o anrhydeddau, nid yn unig am eu gwaith creadigol ond hefyd am eu hysbryd entrepreneuraidd a'u harloesi cyson yn eu maes.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gem arswyd saethwr zombie o Gymru ar frig siartiau gemau rhyngwladol | LLYW.CYMRU

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.