BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwasanaeth Busnes Cymru - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru. Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol ac mae hefyd yn nodi eich hawliau. Gwneir yr hysbysiad hwn o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Gofynnwn ichi roi munud neu ddwy o’ch amser i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

1. Pam rydym yn casglu’r data a’i brosesu

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol rydych chi’n ei roi wrth gael gafael ar gymorth Busnes Cymru.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol yw adran 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (cyfreithlondeb prosesu).

Mae’r gwaith prosesu hwn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus i’ch adnabod a rhoi’r wybodaeth a’r cyngor busnes mwyaf priodol.

Byddwn yn prosesu’r data personol a’r data busnes a ganlyn:

  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • gwybodaeth am eich busnes (megis cynlluniau busnes, mantolenni busnes neu lif arian)

Gall methu â rhoi'r wybodaeth hon i ni eich atal rhag defnyddio'r gwasanaeth.

1.1 Data demograffig

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth ddemograffig.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data demograffig yw adran 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (cyfreithlondeb prosesu). ‌Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn y gwaith ymchwil hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Gelwir peth o'r data a gasglwn yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn eich ethnigrwydd a'ch statws anabledd).

O dan Erthygl 9(2)(j) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, bydd Busnes Cymru yn prosesu data categori arbennig lle bo'n angenrheidiol at ddibenion ymchwil ystadegol yn unol ag Erthygl 89(1), ar yr amod bod y prosesu yn gymesur â'r nod a geisir, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau gwrthrych y data.

Gallai’r wybodaeth a gesglir o ganlyniad i'r ymchwil hon gael ei defnyddio er enghraifft i:

  • Cynllunio'r ddarpariaeth yn y dyfodol o ran cymorth i fusnesau
  • Deall effaith y cymorth ar fusnesau yng Nghymru
  • Sicrhau bod cwmpas y gwasanaeth yn adlewyrchu cymuned Cymru

1.2 Marchnata ac Ymchwil

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Busnes Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.

Sylwch mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw. Os bydd sefydliad yn cysylltu â chi er mwyn gofyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil/gwerthuso ynghylch eich profiad o'r prosiect, caiff diben y cyfweliad neu'r arolwg ei esbonio i chi a bydd modd i chi gytuno neu wrthod cymryd rhan. Dim ond ar gyfer ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddan nhw’n cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hwn wedi’i gwblhau.

2. Pwy fydd yn cael gweld eich data?

Bydd Busnes Cymru a'i gontractwyr gwasanaeth trydydd parti yn casglu ac yn storio eich data.

Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru a systemau TG diogel ein contractwyr gwasanaeth trydydd parti sy'n darparu'r gwasanaeth i chi.

Mae'n cael ei gasglu a'i rannu gyda'r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrwyd yn flaenorol:

  • Cyrff ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi neu i fonitro cyfle cyfartal gwasanaeth Busnes Cymru
  • Timau cymorth gwasanaethau Llywodraeth Cymru a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr systemau technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
  • Swyddfa Archwilio Cymru neu'r rhai sy'n gweithredu ar eu rhan, neu archwilwyr priodol eraill Gwasanaethau Busnes Cymru.

3. Am ba mor hir rydym yn cadw’r data?

At ddibenion archwilio, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Wedi hynny, bydd y data yn cael ei ddinistrio mewn modd diogel.

4. Beth yw eich hawliau? 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • yr hawl i gael gafael ar y data personol amdanoch chi sydd gan Lywodraeth Cymru;
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw;
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

 Wycliffe House
 Water Lane
 Wilmslow
 Cheshire
 SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen Cysylltwch â Ni hon: Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales) 

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddir gennych chi a hynny yn rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i geisio’ch barn cyn ymateb i gais o’r fath.

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac yn dod i rym yn syth. Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth:

Cyfeiriad:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.