1. Mathau o gyllid

I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut i gael gafael ar gyllid a dewis y math cywir, ewch i brif wefan Busnes Cymru

Ein prif gronfa fuddsoddi ar gyfer cyllido twristiaeth yw'r Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC) ac Y Pethau Pwysig.

Gallwch weld manylion cynlluniau ariannu hanesuddol a'r rhai o'r prosiectau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y dudalen prosiectau a gefnogir.

 

 

2. Y Pethau Pwysig

Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

Pwy sydd yn medru gwneud cais?

Mae'r cynllun eleni yn agored i: 

  • Awdurdodau Lleol 
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

Amcanion y gronfa yw:

  • Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.  
  • Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad. 
  • Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntio y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:-

  • Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
  • Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
  • Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
  • Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru.

Lefel y cyllid sydd ar gael

Cronfa gyfalaf yw hon. Nid yw costau refeniw eu hystyried.
Cyfanswm y grant ar gael yw £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oes isafswm grant.

Amserlen ar gyfer cyflwyno

Ar gyfer y rownd hon o ymgeiswyr Y Pethau Pwysig bydd ymgeiswyr yn cael amser ychwanegol i gyflawni prosiectau (os oes angen). Os byddwch yn llwyddiannus ar lwyfan Datganiadau o Ddiddordeb (cam 1) fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais (cam 2). Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os yw eu cais cam 2 yn llwyddiannus ar yr wythnos sy’n dechrau Mehefin 26ain 2023. Rhaid ei wario’n llawn a’i hawlio erbyn 31 Mawrth 2025. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu ar draws cyllidebau 2 flwyddyn ariannol ac felly bydd angen iddo ddangos proffil cost yn glir ar gyfer 2023-24 a 2024-25.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gais gan RegionalTourism@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn oedd 16 Mawrth 2023.

 

3. Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC)

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, wedi lansio cronfa newydd gwerth £50mn, Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru, sy’n dod ag arian masnachol ac arian grant ynghyd mewn un pecyn cyfun o gymorth ariannol er mwyn darparu buddsoddiad cyfalaf i’r sector.

Amcanion y gronfa 

Er mwyn cynnal a datblygu safle Cymru mewn marchnad dwristiaeth fyd-eang eithriadol o gystadleuol, mae angen inni barhau i fuddsoddi yn ein cynnyrch twristiaeth. Amcan allweddol y Gronfa fydd helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau twristiaeth sydd â chyfle i greu argraff gadarnhaol ar y sector a datblygu economi Cymru.

Diben y gronfa

  • Sicrhau bod prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn dal i allu manteisio ar gyllid
  • Helpu’r sector twristiaeth drwy’r cyfnod pontio o’r ddibyniaeth ar arian grant i gyfnod lle mae’n gweithredu ar sail benthyciadau masnachol.
  • Caniatáu defnyddio arian cyhoeddus mewn maes a allai gael effaith sylweddol ar yr economi.
  • Gallu cefnogi buddsoddiadau strategol, a allai fod yn rhai sylweddol, yn ôl yr angen. 

Beth fydd y gronfa'n ei ariannu?

  • Bydd y gronfa newydd yn darparu cyfalaf i fusnesau twristiaeth, rhwng £100,000 a £5,000,000 i brosiectau cymwys.
  • Mae’r cyfnod ad-dalu rhwng 10 a 15 mlynedd, a gall gynnwys ysbeidiau talu tymhorol.
  • Bydd yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran ariannu.
  • Bydd yr arian ar gael o'r adeg y bydd prosiect yn dechrau ac fe’i telir fesul cyfran drwy’r cyfnod datblygu.
  • Bydd taliadau benthyciad masnachol a grant cymwys yn cael eu cyfuno er mwyn lleihau cost y cyllid drwyddi draw.

Pwy sy'n gymwys?

Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru yn gronfa fuddsoddi sy’n cynnwys cymysgedd o arian ad-daladwy ac arian nad yw’n ad-daladwy, fydd yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellid ei defnyddio un ai i uwchraddio asedau presennol, neu i greu asedau newydd, o safon uchel, yn y sector twristiaeth.

I gael ei ystyried am gymorth drwy Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru, bydd angen i ymgeisydd:

  • Ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyniad y Contract Economaidd
  • Bod wedi’i leoli yng Nghymru a dangos sut bydd y prosiect yn ysgogi twf mewn marchnadoedd newydd a marchnadoedd presennol, ac yn creu a/neu ddiogelu swyddi
  • Dangos hyfywedd ariannol a’r gallu i ad-dalu dros gyfnod y pecyn ariannu.

Y Camau Nesaf 

Mae’r gronfa yn cynnwys proses ymgeisio ddau gam. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys ffurflen Mynegi Diddordeb ac, os bydd y busnes yn llwyddiannus ar y cam hwn, caiff ei wahodd wedyn i wneud cais llawn. Mae cwestiynau cyffredin ar gael hefyd.   

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gronfa, anfonwch ebost at CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418.