Cyrsiau dysgu ar-lein

BOSS

Dewiswch unrhyw un o’n cyrsiau am ddim i ddysgu sut y gallwch chi ddefnyddio technoleg ar-lein i arbed amser ac arian, i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, symleiddio prosesau gwaith a thyfu refeniw.

Cliciwch ar gwrs isod i gofrestru’ch busnes a dechrau dysgu am ddim!

Byddwch yn cael eich tywys i dudalen Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) Busnes Cymru i wneud cwrs dysgu ar-lein Cyflymu Cymru i Fusnesau.  

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

GDPR i fusnesau sy'n casglu, dal a defnyddio data.

Creu Presenoldeb Ar-lein Ar Gyfer Eich Busnes

Gallwch gael presenoldeb ar-lein mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Bydd y cwrs yma'n eich helpu chi i ddeall yr opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi a’ch busnes.

Diogelu Data a Seiberddiogelwch

Nid oes unrhyw amheuaeth bod technoleg yn gwneud bywyd llawer yn haws i fusnes cyffredin. Ond a ydych chi erioed wedi meddwl sut byddech chi’n rhedeg eich busnes petaech chi’n colli’r data a’r wybodaeth rydych chi nawr yn eu cadw’n electronig?

Rhesymau am ddefnyddio Band Eang Cyflym Iawn mewn busnes

P’un ai’n gwmni mawr neu fach, gall unrhyw un elwa o fanteision defnyddio Band Eang Cyflym Iawn i bweru eu busnes gyda thechnoleg ar-lein.

Sut i Leihau Costau â Thechnoleg Ar-lein

Mae pob busnes yn awyddus i leihau costau a gall hyn olygu pethau sylfaenol fel diffodd cyfrifiaduron yn hytrach na’u gadael yn y modd segur dros nos. Ond nid oes llawer yn gwneud y gorau o’r amser a’r arian y gallant eu harbed trwy fod ar-lein.

Manteision Defnyddio Cwmwl ar gyfer Busnes

Mae cyfrifiadura cwmwl yn cynnig y fantais i allu cael mynediad at feddalwedd ac atebion trwy’r rhyngrwyd heb ei pherchnogi.

Marchnata Ar-lein

Mae’r canllaw hwn yn amlygu rhai o elfennau allweddol marchnata ar-lein, yn ogystal ag arfer gorau, er mwyn i chi allu tyfu eich busnes â hyder.

Arbed Amser a Rheoli Cyllid Ar-lein

Gyda chymaint o becynnau oddi ar y silff sy’n fforddiadwy a dewisiadau amgen pwrpasol ar gael ar gyfer anghenion arbenigol, bydd y canllaw hwn yn amlinellu rhai ystyriaethau. Mae’r rhain yn cynnwys costau cychwynnol, ffioedd sefydlu a pha mor hawdd yw hi i’w defnyddio.

Manteisio i’r eithaf ar eich adnoddau presennol

Offer sy’n gallu helpu pobl i weithio mewn ffyrdd mwy clyfar, nid caletach.

Y Dechnoleg a’r Cymorth Gorau i Fusnesau Bach a Chanolig

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddiffinio pa wasanaethau allai ateb eich anghenion orau.

Sut i Reoli Newid Digidol yn eich Busnes mewn Ffordd Lwyddiannus

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r gwerth o asesu a yw’r budd yn gorbwyso’r risg o ymrwymo i newid, a sut i reoli’r broses drawsnewid mewn ffordd lwyddiannus trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Achub y Blaen ar eich Cystadleuwyr

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi i barhau’n berthnasol wrth i ddisgwyliadau  cwsmeriaid ddatblygu yn sgil newidiadau wedi’u hysgogi gan y rhyngrwyd. Bydd yn datgelu na fydd angen i chi fod yn arbenigwr mewn technoleg cwmwl i feithrin enw da llwyddiannus.