Blwyddyn Newydd. Degawd newydd. Ffordd newydd o wneud busnes?

Mae 2020 eisoes yn flwyddyn hollol wahanol i 2019, wrth i’r flwyddyn newydd ddod ag eglurder a chyfleoedd hirddisgwyledig. Arweiniodd hyn at roi hwb i hyder busnesau Cymru. Ond beth all cwmnïau o Gymru ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar yr egni newydd hwn wrth gamu i ddegawd newydd?

Mae llawer wedi penderfynu eisoes mai defnyddio technoleg ddigidol yw’r ffordd o roi hwb i’w twf. Yn ôl astudiaeth gan Hitachi Capital Business Finance mae dwy ran o dair o arweinwyr busnesau bach a chanolig eisiau cryfhau sgiliau eu timau yn 2020, ac mae bod yn ddigidol yn flaenoriaeth.

Ar ôl 2019 anodd, mae’r sector manwerthu ar flaen y ciw ar gyfer gwella sgiliau, ac mae dros hanner y sector yn ceisio cynyddu eu harbenigedd technegol. Gyda chwsmeriaid yn gwneud mwy a mwy o’u siopa ar-lein, nid yw dibynnu ar nifer y cwsmeriaid sy’n croesi trothwy'r siop yn ddigon wrth i gwmnïau geisio osgoi gaeaf llwm ar ôl y Nadolig.


“Drwy fod yn gwmni sy’n ystwyth yn ddigidol, gallwn barhau i dyfu.”

Mae'r cwmni manwerthu ar-lein Bearhug Sports, sy’n gwerthu rhwymau o ddefnydd siarcol-bambw i athletwyr ar bob lefel, eisoes wedi gwneud y mwyaf o werthiannau digidol gan gipio 50% yn fwy o werthiant ar-lein mewn dim ond 5 mis.

 

Someone in a Bear Hug hoody using a phone.

“Mae presenoldeb ar-lein Bearhug yn hanfodol i’r busnes,” meddai'r Prif Adeiladydd Brand, Alexander Davies. “Drwy ein presenoldeb ar-lein, rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ein cynnyrch a’r brand ac yna rydyn ni hefyd yn cymryd ein holl archebion drwy ein gwefan ein hunain. Mae Shopify wedi caniatáu i ni ddatblygu’r busnes gyda’r holl integreiddiadau sydd ar gael, yn enwedig Xero, sef ein system gyfrifyddu yn y cwmwl.”


Gall siopau fel Bearhug wella profiad y cwsmer drwy ddylunio gwefannau hygyrch a gwneud siopa'n haws o lawer, ac i’r busnes, mae hynny’n golygu gwerthu mwy.

Ond nid manwerthwyr yn unig sy’n gallu newid y ffordd maen nhw’n gwneud busnes gyda thechnoleg ddigidol. Er bod e-fasnach yn canolbwyntio ar y cwsmer, gall rhanddeiliaid mewnol elwa hefyd. Gall y cam cyntaf fod yn help i ryddhau eich amser neu wneud bywyd yn haws, ond gall technoleg ddigidol hefyd alluogi eich busnes i ddringo i’r cam nesaf.


“Fel rhywun sy’n dysgu wrth fy ngwaith, roedd y cymorth a gefais gan#CyflymuBusnesau yn hanfodol”

Gyda blwyddyn newydd daw cyfleoedd newydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod eich busnes wedi’i gynllunio ac yn barod i dyfu. Dyna’r union beth wnaeth busnes Maid In North Wales wrth iddyn nhw geisio bod yn rhan o ddiwydiant twristiaeth Gogledd Cymru sy’n werth £3.2 biliwn.

Alex from Maid In North Wales.

“Roedd systemau papur bob amser wedi gweithio’n dda i mi yn y gorffennol, ond cyrhaeddodd bwynt lle roeddwn i’n cael trafferth cadw trefn ar yr holl archebion a oedd yn dod i mewn,” meddai’r sylfaenydd Alex Parkes.

“Roedd arna i angen system ar-lein lle byddai’n hawdd i mi gofnodi dyddiadau cyrraedd a dyddiadau gadael yn rhwydd, a storio manylion cleientiaid ynghyd ag amseroedd cyrraedd ac amseroedd gadael y staff.”

Yn dilyn cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, mabwysiadodd Alex becyn cyfrifyddu a system CRM i helpu i reoli ei chwmni glanhau a oedd yn tyfu’n gyflym. Cymerodd beth amser i ddod i arfer ag o, ond fuaswn i ddim yn mynd yn ôl at fy nyddiaduron papur rŵan.”


Un peth yw bod yn barod yn ddigidol, ond mae'n bryd i fusnesau Cymru nawr fod yn gryf yn ddigidol - ac mae 6,000 ohonyn nhw eisoes wedi cofrestru am gymorth arbenigol.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru wedi’i chynllunio i helpu busnesau bach a chanolig i roi lle canolog i dechnoleg ddigidol yn eu busnes, ac maen nhw wedi cyflwyno eu hamserlen ar gyfer 2020 sy’n cynnwys gweithdai rhad ac am ddim, gyda phynciau’n amrywio o’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, yn ogystal ag adnoddau ar-lein i’w defnyddio a systemau CRM.

Mae eu gweithdai eisoes wedi nodi pa dechnoleg fyddai’n gallu helpu busnesau Cymru, ac mae’r sesiwn 1:1 sy’n dilyn yn gyfle i gwmnïau gael cyngor arbenigol wedi’i deilwra iddyn nhw.

Dywed Alex o Maid in North Wales: “Roedd Adam Gerrard, fy nghynghorydd busnes gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn wych. Roedd o mor ddeallus ac fe wnaeth fy helpu i ddeall pa dechnoleg fyddai’n gallu fy helpu a sut i'w defnyddio.”

Felly, os mai mynd â’ch busnes i’r lefel nesaf oedd eich adduned blwyddyn newydd, mae’n bryd gwneud hynny go iawn.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen