Mae cwmni tiwtora o Gaerffili, wnaeth golli ei holl incwm bron iawn i gyd dros nos yn sgil canslo’r arholiadau, wedi camu nôl yn agos at lefelau cyn COVID, ar ôl symud gwersi ar-lein. Ym mis Chwefror, cyflwynodd Educalis tua 240 awr o diwtora. Ond pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud yn y DU, disgynnodd y nifer i 20, ac fel nifer o fusnesau, bu’n rhaid cau’r drysau ac anfon y staff i weithio gartref tra bod eraill ar ffyrlo.

“Roedd angen i ni symud ar-lein i gadw’r busnes i fynd”

Dywedodd y perchennog Emma Blewden: “Unwaith daeth sôn am gau’r ysgolion, fe wnaethon ni ddechrau cynllunio. Ond doedden ni ddim wedi rhagweld canslo’r arholiadau. Aeth y niferoedd o 65 o fyfyrwyr i bump dros nos, a chollwyd ein holl incwm o’r sesiynau adolygu. Roedd ein holl sesiynau yn cael eu cyflwyno wyneb-yn-wyneb, a gan nad oedd hynny’n bosib mwyach, roeddwn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ddod o hyd i opsiynau eraill neu fentro colli'r busnes.

Emma Blewden of Educalis.

“Darparodd Cyflymu Cymru i Fusnesau gyngor am ddim ar adeg pan roedd gwir angen amdano”

“Roeddwn i wastad wedi bwriadu cyflwyno’r elfen ddigidol yn 2021 ond cyflymodd y pandemig y broses honno. Fe wnes i ddechrau chwilio am help i uwchsgilio, a dyna pryd ddes i o hyd i Cyflymu Cymru i Fusnesau. Fe ymunais â gweminar marchnata digidol a ches i gyngor ac adolygiad gwefan gan ymgynghorydd busnes. Roedd G-Suite gyda ni’n barod, ond dim ond ambell un ohonom o’dd yn ei ddefnyddio ar gyfer e-bostio’n unig. Dangosodd ein hymgynghorydd i ni sut i ddefnyddio’r holl offer oedd ar gael o fewn G-Suite fel Google Classroom, Meet, Jam Board, Docs, ac ati, felly roedden ni’n gallu cynllunio a chynnal gwersi ar-lein yn hawdd, yn ogystal â storio a gwneud ffeiliau wrth gefn yn ddiogel, a recordio sesiynau.”

Cafodd staff, gan gynnwys y rheini ar ffyrlo, eu hyfforddi ar y system newydd, felly roedd pawb yn barod i ddechrau arni pan lansiwyd y gwasanaeth ar-lein.

“Fe wnaethon ni hysbysebu ar Facebook ac fe wnaeth hynny ddenu cleientiaid newydd”

Ychwanegodd, “Mae staff wedi addasu’n dda iawn i’r ffordd newydd o weithio, ac mae pawb wedi gallu gweithio a chyflwyno sesiynau’n llwyddiannus o adref drwy ddefnyddio G-Suite. Anfonwyd e-byst at rieni i ddweud ein bod ni’n cynnig dysgu digidol, ac fe wnaethon ni ddefnyddio Facebook i hysbysebu, gan wario ambell bunt y dydd, ac roedd hyn yn helpu i ddenu cleientiaid newydd. Yn raddol, dechreuodd nifer ein disgyblion godi unwaith eto. Ym mis Mawrth, roedden ni’n cyflwyno 20 awr o diwtora, a chynyddodd hynny i 69 awr ym mis Ebrill. Ym mis Gorffennaf, roedd hi’n 206 awr y mis, sydd gyda mis Awst yn un o’n misoedd tawelaf gan amlaf.

“Mae adborth y disgyblion o’n sesiynau ar-lein wedi bod yn bositif iawn”

“Gyda’r ysgolion ar gau am gyfnod mor hir, roedd rhieni yn poeni am eu plant yn colli allan ar addysg. Oherwydd i ni symud ar-lein, roedden ni’n gallu cynnig y gefnogaeth hollbwysig sydd wedi rhoi hyder a thawelwch meddwl i rieni a disgyblion. Rydyn yn dal i diwtora ar-lein gan fwyaf, ond rydyn ni newydd ddechrau cael pobl yn ôl i'r swyddfa’n ddiogel. Mae'n ddiddorol serch hynny bod nifer o'n myfyrwyr bellach yn dweud bod yn well ganddyn nhw hyblygrwydd dysgu ar-lein, fel rhai o’n tiwtoriaid!”

Wrth symud ymlaen, bydd Educalis yn defnyddio cyfuniad o ddysgu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein i gynnig mwy o ddewis i bobl. Mae’n dweud bod symud ar-lein wedi dod â disgyblion o ardaloedd pellach sy’n ffafrio dysgu digidol, felly does dim rhaid dibynnu ar yr ardal leol am fusnes. Gyda hynny mewn cof, mae'n bwriadu diweddaru'r wefan yn dilyn cyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddenu mwy o gleientiaid ar-lein. Mae’n gobeithio y bydd y safle newydd yn barod i’w lansio erbyn diwedd y flwyddyn.

A notebook with notes.

“Mae digidol wedi bod yn gam da i ni, ac mae wedi’n paratoi ni ar gyfer beth bynnag ddaw yn y dyfodol”

I Emma Blewden, mae’r posibilrwydd o fwy o gyfyngiadau lleol, neu gyfyngiadau cenedlaethol hyd yn oed, wedi dangos pwysigrwydd defnyddio digidol i ddiogelu’r busnes, nid yn unig yn ystod y pandemig presennol, ond i’r dyfodol. “Nawr ein bod ni wedi dod i ddeall digidol, rydyn ni’n barod am ail don neu ddirwasgiad sylweddol. Mae’n gyfnod ansicr, felly mae’n anodd blaengynllunio, ond pe na fyddem wedi troi at ddigidol, bydden ni wedi colli ein holl refeniw,” dywedodd Emma.

Yn ogystal â darparu tiwtora a mentora wedi’i bersonoli mewn pynciau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, mae Educalis (Canolfan Addysg ar gyfer Dysgu, Cyfarwyddyd a Chymorth Ychwanegol) yn darparu ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr. Yn ddiweddar, ychwanegodd Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, gyda chyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau nesaf ar y rhestr.

Dywedodd Emma, “Rydyn ni mor ddiolchgar am gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau. Heb os, mae wedi bod yn achubiaeth!”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen