Tyfu busnes cymdeithasol

Gateway Dental Practice

Gall tyfu eich busnes cymdeithasol fod yn ffordd wych o wella cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.

Ystyriwch y canlynol fel rhan o’ch strategaeth twf:

Cynllun twf busnes cymdeithasol 

Wrth gynllunio i dyfu eich menter gymdeithasol, dechreuwch drwy bennu p’un ai twf yw’r ffordd orau o weithredu. Gallai tyfu er mwyn tyfu fod yn arwydd o wyro oddi wrth y genhadaeth yn hytrach na cham tuag at gyflawni eich cenhadaeth gymdeithasol.  

I wneud yn siŵr y bydd twf yn gwella perfformiad busnes mewn gwirionedd, edrychwch ar ein canllaw i gynllunio busnes ar gyfer busnes cymdeithasol.

Gallai twf arwain at sefyllfa risg uchel hefyd, lle mae amrywiadau mewn proffidioldeb neu lif arian yn llethu eich cyfalaf - senario sy’n cael ei adnabod fel 'gorfasnachu'. Ond os yw’n cynhyrchu elw neu’n gwneud eich tîm yn gryfach, gallai twf wella’r busnes.   

Os ydych chi wedi pennu bod twf yn ffordd ymarferol o weithredu ar gyfer eich busnes cymdeithasol, mae nifer o ffyrdd y gallech fynd o’i chwmpas. Gallwch ehangu eich marchnad, yr hyn rydych yn ei gynnig neu eich ardal ddaearyddol. Gallai twf hefyd olygu ymuno â busnesau eraill trwy gydweithio neu uno.

 

Ystyriwch y llwybrau i dwf a ddangosir isod naill ai’n unigol neu wedi’u cyfuno: 

Ffyrdd o dyfu eich menter gymdeithasol: 

Ehangu busnes cymdeithasol 

Cyflawnir twf trwy ehangu, trwy ymestyn yr hyn rydych yn ei gynnig i farchnad ehangach. 

Arallgyfeirio busnes cymdeithasol 

Mae tyfu eich busnes cymdeithasol trwy arallgyfeirio yn golygu ehangu ystod y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig.

Gwaith consortia ar gyfer busnesau cymdeithasol 

Mae gwaith consortia yn strategaeth dwf sy’n cynnwys creu tîm o sefydliadau sy’n gallu cyfuno eu cyllidebau, eu sgiliau a’u hadnoddau.  

Cwmnïau deillio busnes cymdeithasol 

Gellir cyflawni twf busnes cymdeithasol hefyd trwy rannu’r sefydliad yn fentrau cymdeithasol llai a mwy effeithlon. 

Uno a chaffael busnesau cymdeithasol 

Gall dyfu eich menter gymdeithasol hefyd trwy gyfuno sefydliadau presennol sydd â chenhadaeth gymdeithasol debyg.  

Rhyddfreinio busnes cymdeithasol 

Mae rhyddfreinio cymdeithasol yn darparu pecyn busnes cymdeithasol y mae modd ei ailadrodd y gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau a chyd-destunau eraill.  

Perchnogaeth cyflogeion am fusnesau cymdeithasol 

Mae’r adran hon yn archwilio’r llwybrau unigryw ar gyfer twf sydd ar gael i fusnesau a berchnogir gan eu cyflogeion.  

Astudiaethau achos twf busnes cymdeithasol 

Enghreifftiau o fusnesau cymdeithasol ledled Cymru yr ydym wedi eu helpu i dyfu a thrawsnewid. 


Cymorth a chefnogaeth busnes cymdeithasol gan Busnes Cymru 

Mae Busnes Cymru yn cynnig llawer o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer perchnogion busnes. Isod, rydym wedi rhestru rhai adnoddau defnyddiol ar gyfer tyfu eich busnes cymdeithasol:

Ehangu

Gwneud mwy o’r un peth, mwy na thebyg mewn marchnad ehangach.

Arallgyfeirio

Ehangu’r amrywiaeth o nwyddau neu wasanaethau a gynigir.

Gweithio mewn consortia

Creu timau o sefydliadau.

Gwaith deilliedig

Creu mentrau deilliedig oddi mewn i’r busnes presennol.

Uno a Chaffael

Creu menter mwy o faint trwy gyfuno sefydliadau sy’n bodoli.

Rhyddfreinio Cymdeithasol

Darparu pecyn i alluogi sefydliadau eraill i ddyblygu eich llwyddiant.

Perchnogaeth gan Weithwyr

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn golygu bod gan yr holl weithwyr ran arwyddocaol ac ystyrlon mewn busnes.


Help a chymorth gan Busnes Cymru