Cyn i chi gychwyn Busnes Cymdeithasol

Yr amcan cyntaf yw penderfynu a yw eich syniad ar gyfer busnes cymdeithasol yn gynnig dichonadwy ai peidio.  

A oes marchnad ar gyfer eich gwasanaeth neu gynnyrch? A oes cwsmeriaid a all fforddio talu am y gwasanaeth neu gynnyrch? Mae angen i chi fod yn hyderus bod eich syniad yn ddichonadwy cyn i chi ddechrau ystyried strwythurau cwmni neu elusennol.

Rhaid i nifer o bethau fod yn eu lle er mwyn i fusnes cymdeithasol fod yn ddichonadwy. Rhestrir y rhain isod. Pan fydd pob un ohonynt wedi’u cyflawni, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf – sef cychwyn.


Yn yr adran hon:


Peidiwch â phoeni ynghylch pa ffurf gyfreithiol i’w defnyddio ar hyn o bryd. Daw’r ffurf gyfreithiol fwyaf priodol yn amlwg wrth gynllunio’r busnes. Cofiwch: mae ffurf yn dilyn swyddogaeth. Mae cyfrwng cyfreithiol yn un o nifer o adnoddau y dylech eu caffael wrth gychwyn ac nid cyn hynny. Os byddwch yn ymgorffori’n rhy gynnar, mae perygl y byddwch yn cofrestru ffurf gyfreithiol amhriodol, a allai fod yn gamgymeriad costus.

I ddechrau’r broses o  gychwyn eich busnes cymdeithasol, bydd angen i chi arddangos i bobl eich bod wedi sefydlu dichonoldeb, hynny yw. bod pob un o’r profion uchod wedi’u bodloni. I wneud hynny, ysgrifennwch adroddiad gan ddefnyddio’r penawdau uchod, neu gwnewch yn sicr eich bod wedi mynd i’r afael â phob un o’r materion uchod.  Gallai hon fod yn ddogfen ddynamig gyda nifer o gyfranwyr a nifer o fersiynau wrth iddi ddatblygu.

Lawrlwythwch restr wirio i'ch helpu i ysgrifennu adroddiad dichonoldeb.

Sylwer mai astudiaeth ddichonoldeb yw hon ac nid cynllun busnes, er pan ddaw’n bryd i chi ddechrau ysgrifennu cynllun busnes, bydd pwyntiau cychwyn ar gyfer llawer o’r cynnwys yn dod o’r astudiaeth ddichonoldeb.

Mae’n bosibl y bydd cyfnod pontio pan fyddwch yn dechrau drafftio cynllun busnes cyn i’r astudiaeth ddichonoldeb gael ei chwblhau. Mae hynny’n iawn, ond sicrhewch nad ydych yn dechrau caffael adnoddau ar gyfer eich busnes cymdeithasol hyd nes y bydd dichonoldeb wedi’i sefydlu.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddechrau menter yn y gymuned

ar wefan Co-operatives UK