Pobl

Sefyllfa Bresennol

 

Ble rydym ni arni ar hyn o bryd?

Gadawodd y DU yr UE yn ffurfiol ar 31 Ionawr gyda chytundeb ymadael.  Mae'r DU wedi cychwyn ar gyfnod pontio nawr tan 31 Rhagfyr 2020.

Rhwng 1 Chwefror a 31 Rhagfyr 2020 bydd y DU yn parhau i fod o fewn undeb tollau a marchnad sengl yr UE. Yn ystod y cyfnod pontio bydd Llywodraeth y DU yn trafod cytundeb masnach at y dyfodol gyda'r UE. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hasesiad o Ddatganiad Gwleidyddol Llywodraeth Cymru a'i blaenoriaethau ar gyfer masnach yn y dyfodol, a'r berthynas ehangach â'r UE.  
 

Ydy Llywodraeth Cymru yn parhau i gynllunio ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’? 

  • Er ein bod bellach wedi ymadael â’r UE – bydd y gwaith cymhleth o drafod perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol yn cychwyn yn fuan.
  • Mae’n bosibl iawn na fydd cytundeb ynghylch y berthynas yn y dyfodol erbyn diwedd y cyfnod pontio.
  • Mae cymaint i’w drafod ac nid oes llawer o amser. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn bendant na fydd y cyfnod pontio yn cael ei estyn. O’r herwydd, os na fydd cytundeb â’r UE o ran masnach erbyn 31 Rhagfyr bydd y DU yn dechrau dilyn Rheolau Sefydliad Masnach y Byd wrth fasnachu â’r UE.  
  • Waeth pa gytundebau fydd yn cael eu gwneud â’r UE a gweddill y byd, bydd effaith diwedd y cyfnod pontio yn sylweddol – bydd archwiliadau ar ffiniau, gwiriadau tollau a gofynion gweinyddol newydd. Bydd angen i fusnesau, y sector cyhoeddus ac unigolion baratoi. 

Mae Cymru yn parhau i fod yn genedl Ewropeaidd

  • Mae'r DU wedi ymadael â’r UE ond nid ydym yn gadael Ewrop - mae Cymru yn parhau i fod yn genedl Ewropeaidd.
  • Rydym yn parhau i fod angen y berthynas gryfaf, agosaf gyda'n cymdogion agosaf.
  • Rydym am gadw ein cysylltiadau masnachol, diwylliannol a chymunedol agos sydd o fudd inni i gyd.
  • Mae Cymru yn parhau i fod yn genedl Ewropeaidd, sydd ar agor i fusnes ac yn awyddus i fasnachu yn rhyngwladol. 
  • Mae ein llwyddiant yn y dyfodol yn seiliedig ar ein cysylltiadau â'r byd yn ehangach, ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol a phartneriaethau economaidd - gan ddenu buddsoddiad mewnol, a helpu busnesau o Gymru i sefyll allan ledled y byd.
  • Am ragor o wybodaeth gweler Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Digwyddiadau Tramor

Dewiswyd y marchnadoedd a’r arddangsofeydd yn ein rhaglen i adlewyrchu’r datblygiadau rhyngwladol sy’n rhoi cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru.

Hafan Allforio

Mae busnesau sy'n allforio yn tyfu'n gyflymach, yn fwy proffidiol ac yn fwy tebygol o barhau mewn busnes na'r rhai sy'n gwerthu'n fewnol yn unig.

Bwyd a Diod

Gall allforwyr Bwyd a Diod wynebu problemau penodol i’r sector unwaith y byddwn yn gadael yr UE. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma.

Mae Banc Datblygu Cymru yn ariannu busnesau maent yn meddwl fydd o fudd i Gymru a'i phobl. Drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol pan fo’r opsiynau’n edrych yn gyfyngedig, maent yn dod ag uchelgeisiau’n fyw ac yn danwydd posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.