Polisi

Papur Gwyn Brexit Llywodraeth Cymru a'r papurau polisi dilynol

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymr PDF (2.8Mb) gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017, a oedd yn pennu'r prif flaenoriaethau strategol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru mewn perthynas â Brexit.

Yn dilyn y Papur Gwyn, cafwyd cyfres o bapurau polisi Brexit yn amlinellu cynigion mwy manwl Llywodraeth Cymru ar gyfer gadael yr UE a diwygio'r DU.

Papurau polisi hyd yn hyn:

Mae'r ddogfen Brexit a'n Tir PDF (3.2Mb) yn cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd i gefnogi ffermwyr Cymru ar ôl Brexit, a fydd yn disodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
 
Cafodd gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer perthynas gyfansoddiadol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU sy'n hanfodol wahanol ei hamlinellu yn y ddogfen Brexit a Datganoli PDF (0.6Mb)
 
Mae'r ddogfen Brexit a Thegwch o Ran Symudiad Pobl PDF (1.4Mb) yn nodi cynigion ar gyfer system fudo newydd sy'n cysylltu mudo'n fwy agos â chyflogaeth ac yn mynd i'r afael â chamfanteisio ar weithwyr.
 
 Mae'r ddogfen Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit PDF (1.8Mb) yn amlinellu cynigion ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol, gyda chyllid a phenderfyniadau yn aros yn Llywodraeth Cymru.
 
Yn Y Polisi Masnach: materion Cymru PDF (1.7Mb) mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynigion ar gyfer masnach ar ôl Brexit ac yn cyflwyno'r achos dros gadw mynediad llawn i Farchnad Sengl yn Ewrop a bod yn aelod o undeb tollau.

Mae'r ddogfen Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit yn awgrymu cynigion i lunio system gyllido newydd er mwyn sicrhau buddsoddiad teg a pharhaus ar gyfer Cymru a gweddill y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau cyfres o hysbysiadau technegol sydd ar gael ar wefan GOV.UK.

Mae hysbysiadau canllawiau parodrwydd yr UE ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.